BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
CA2 Creu Llythyr
TACTEG

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Tacteg
Tacteg Cymraeg
CA 2
creu portread
creu stori
creu adroddiad
creu dyddiadur
creu cerdd
creu llythyr
creu deialog
creu trafodaeth
Termiadur
Rhieni ac athrawon
Gwyddoniaeth

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llythyr personol
Dalen Ffeithiau

Rydyn ni i gyd yn mwynhau cadw mewn cysylltiad gyda teulu a ffrindiau. Mae hyn yn bwysig am sawl rheswm!

Llythyr personol

Pam ysgrifennu llythyrau personol?

* Cadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau.
* Sôn am ddigwyddiadau cyffrous, er enghraifft, ennill gêm rygbi, ennill gwobr mewn cystadleuaeth.



Rhestrwch y math o bethau y byddech chi'n gallu ysgrifennu amdanynt mewn llythyr personol. Rhestrwch hefyd at bwy y byddech yn gallu ysgrifennu llythyrau.

Dyma i chi ddwy enghraifft o lythyrau personol. Llythyr at ffrind yn trafod trip i'r Eisteddfod yw'r llythyr cyntaf tra bod yr ail lythyr yn llythyr o ymddiheuriad.

Llythyr personol

(Addasiad) Campiaith 2, Meinir Pierce Jones, Gwasg Taf, tud 96

Darllenwch y llythyr nesaf hefyd a sylwch ar sut mae'r llythyr wedi ei osod ar y papur:


Llythyr personol

Mae'n debyg i chi sylwi'n syth ar y modd mae'r llythyrau personol yma wedi cael eu gosod. Dyma'r fframwaith cywir o ysgrifennu llythyr personol.

Beth yw fframwaith ysgrifennu llythyr personol?

  • Mae angen gadael llinell rhwng pob rhan fel bod y llythyr yn cael ei osod yn drefnus a thaclus.
  • Mae hyd y paragraffau yn amrywio - hyn yn dibynnu ar yr hyn sydd i'w ddweud.
  • Cyfeiriad a chôd post [ochr dde]
  • Dyddiad [ochr dde]
  • Cyfarchiad [ochr chwith]
  • Paragraff cyntaf

Paragraff cyntaf

Mae'n bwysig eich bod yn meddwl am y darllenydd yn y paragraff cyntaf.

e.e. holi am y teulu, cyfeirio at bethau a wnaethoch gyda'ch gilydd

Ail baragraff

Cyflwyno gwybodaeth arall

Trydydd paragraff

Cyflwyno gwybodaeth arall

Paragraff clo

Yn y paragraff hwn, rydych chi'n dod â chynnwys y llythyr at ei gilydd. Mae'n bosibl i chi ofyn ambell gwestiwn fel bod y darllenydd yn gallu eu hateb tra'n ysgrifennu ei lythyr yn ôl atoch, er enghraifft:

Beth wyt ti'n ei wneud penwythnos cynta'r gwyliau?
Beth am fynd i weld Cymru yn chwarae yn Stadiwm y Mileniwm? Iawn?!

Diweddglo

Dyma enghreifftiau i chi o'r modd y gallwch orffen eich llythyr:

Hwyl!

Cofion cynnes,

Cofion gorau,

Wela i ti cyn bo hir,

Hwyl a fflag,

Ta Ta Tan Toc!

Yn aml mewn llythyr personol, mae'r person sydd wedi ysgrifennu'r llythyr yn rhoi ei enw cyntaf ar ddiwedd y llythyr.

Llythyr personol

Beth yw ôl-nodyn?

Mae tueddiad i ni i gyd anghofio rhywbeth pwysig yng nghanol y llythyr. Mae'n bosibl i ni ychwanegu dwy lythyren ar ôl y llofnod, sef O.N. - mae hyn yn golygu ôl-nodyn!

Dyma rai enghreifftiau o ôl-nodynau posibl i chi eu hychwanegu at lythyrau:

O.N. Paid ag anghofio pen-blwydd Nain yr wythnos nesa'!

O.N. Gwna bob ymdrech i 'sgwennu llythyr yn ôl mor fuan â phosibl. Ella i ddim aros i glywed hanes y disgo!



CA2 Creu Llythyr

Cwis


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy