![]() |
CA2 Creu Llythyr - Llythyr ffurfiolPam ysgrifennu llythyr ffurfiol?
Dyma enghraifft o lythyr ffurfiol yn cwyno am bâr o esgidiau: ![]() Trendi gan Euros Rhys Evans, (CAA a Chyngor Dyfed), [ 1991] Beth yw fframwaith ysgrifennu llythyr ffurfiol? Mae ffordd arbennig o osod llythyr ffurfiol. Mae nodweddion tebyg i'r ffordd y byddwch yn ysgrifennu llythyr personol ond mae rhai pethau ychwanegol.
Gan nad ydyn ni gan amlaf yn adnabod y person yr ydyn ni'n anfon y llythyr ato yn dda, rydyn ni fel arfer yn ysgrifennu: Annwyl Syr/Fadam, Ambell waith, rydych chi'n gwybod enw'r sawl sy'n derbyn y llythyr, felly mae'n bwysig eich bod yn nodi ei enw/henw: Annwyl Mr Thomas, Annwyl Miss James, Mae rhai llythyrau ychydig yn llai ffurfiol nag eraill felly gallwch ysgrifennu: Annwyl Gyfaill, Paragraff cyntaf Mae'n bwysig eich bod yn egluro pwrpas y llythyr. Mae hyn wedyn yn rhoi cyflwyniad i'r sawl sy'n derbyn y llythyr ynglŷn â beth mae'r llythyr yn mynd i fod yn sôn amdano a'r modd yr ydych am iddo/iddi ymateb i'r llythyr. Dyma rai enghreifftiau: Rydw i'n ysgrifennu'r llythyr hwn atoch i gwyno am y pâr o esgidiau rhedeg a brynais yn eich archfarchnad yn y dref Ddydd Mercher, 12/12/04. Ysgrifennaf atoch i ddarganfod beth yr ydych chi'n bwriadu ei wneud gyda phwll nofio Aberpwll. Mae golwg ofnadwy ar yr adeilad ac mae bron â mynd yn adfail! Ail baragraff Mae angen i'r llythyr ddatblygu wedyn gan gyflwyno mwy o wybodaeth a phwynt arall. Trydydd paragraff Cyflwyno gwybodaeth a phwynt arall. Paragraff clo Casglu ynghyd yr holl wybodaeth a chloi'r llythyr yn drefnus. Diweddglo Er mwyn gorffen y llythyr mewn ffordd ffurfiol, mae angen i chi ddefnyddio cyfarchiadau ffurfiol e.e. Yr eiddoch yn gywir, Yn gywir, Mae angen i chi ei lofnodi ac wedyn printio eich enw gan ddefnyddio cyfrifiadur. Dyma enghraifft i chi: ![]() Darllenwch y llythyr ffurfiol hwn. A yw'r holl bwyntiau sydd wedi cael eu nodi uchod wedi eu cynnwys yn y llythyr hwn? ![]() Mae'n debyg i chi sylwi bod cwestiwn yn cael ei ofyn ar ddiwedd pob paragraff. Mae hyn yn gallu bod yn effeithiol iawn gan ei fod yn pigo cydwybod y darllenydd. Pan fydd y darllenydd yn ymateb i'r llythyr hwn, fe fydd disgwyl iddo ateb y cwestiynau hyn! |
![]() |