| ![]() |
BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||||||||||||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||||||||||||||||||||
Cyn darllen adroddiad ar y radio neu'r teledu, mae'n rhaid i'r ohebydd ei ysgrifennu ar bapur. Mae nodweddion adroddiad papur newydd ac adroddiad ar gyfer y radio neu'r teledu'n debyg iawn ond mae rhai gwahaniaethau. Tybed beth yw'r gwahaniaethau? Dewch i ddarllen mwy! Mewn adroddiad, mae'n bwysig dechrau gyda'r eitemau pwysicaf a dewis y wybodaeth yn ofalus. Mae'n rhaid i chi wneud gwaith ymchwil cyn cychwyn ysgrifennu wrth gwrs. Dyma dair enghraifft o adroddiad am yr un digwyddiad. Trafodwch gyda'ch partner y nodweddion tebyg a gwahanol rhyngddynt. Gwnewch restr ac adroddwch yn ôl i weddill y dosbarth. Adroddiad Radio: Rydw i'n sefyll o flaen y tŷ hanesyddol hwn yn ardal Llangernyw. Roedd unwaith yn dŷ pwysig iawn yn y gymuned ond erbyn hyn mae'r to a'r rhan fwyaf o'r waliau wedi syrthio a thyllau mawr yn y ffenestri. Chwythodd y gwynt lechi'r to a gwydr y ffenestri nes eu bod wedi distrywio sawl car yn y maes parcio tua 500 metr i ffwrdd!Adroddiad Teledu: Fel y gwelwch chi rydw i'n sefyll yma o flaen y tŷ hanesyddol hwn yn ardal Llangernyw. Roedd unwaith yn dŷ oedd â statws uchel yn y gymuned ond erbyn hyn mae'r to wedi ei falurio, y rhan fwyaf o'r waliau wedi eu dymchwel a thyllau enfawr yn y ffenestri. Yma y chwythodd y gwynt y gwydr a llechi'r to - mae tua 500 metr o'r prif adeilad ei hun. Mae sawl car wedi cael ei ddistrywio.Adroddiad papur newydd: ![]() Nos Iau diwethaf yn ystod y storm o wynt a glaw a effeithiodd y rhan fwyaf o'r gogledd, gwnaeth tân ddinistrio un o dai hanesyddol pwysicaf Sir Gonwy. Dechreuodd y tân tua 10 o'r gloch y nos ac mae amheuaeth ai damwain neu dân wedi cael ei gynnau'n fwriadol oedd e. Mae'r heddlu'n gwneud ymholiadau yn yr ardal yn y dyddiau nesaf. Roedd Hafod yr Unos yn dŷ ysblennydd ond erbyn hyn mae'r to wedi ei falurio, y rhan fwyaf o'r waliau wedi eu dymchwel ac mae tyllau enfawr yn y ffenestri. Yn ffodus, cafodd neb ei anafu er i'r llechi a'r gwydr gael eu gwasgaru ar hyd y maes parcio sydd gryn bellter i ffwrdd. Serch hyn, cafodd sawl car ei ddistrywio. Nawr edrychwch ar fwletin newyddion ynglŷn a'r digwyddiad. Mae adroddiad radio a theledu yn adroddiad sy'n cael ei ysgrifennu ar y pryd, hynny yw, yn y fan a'r lle. Cofiwch Mae adroddiad papur newydd yn cyfeirio'n ôl at y digwyddiad, efallai o'r diwrnod neu'r wythnos flaenorol. Defnydd cywir o iaith mewn adroddiadau Mae'n bwysig i ddefnyddio iaith gywir a chlir pan ydych chi'n ysgrifennu adroddiad. Mae'n rhaid disgrifio'n union beth sydd wedi digwydd. Dyma enghraifft: Taith i'r Lleuad
Ar 25 o Fai 1961, dywedodd John F. Kennedy, Arlywydd Unol Daleithau'r America, ei fod am yrru dyn i'r lleuad cyn y flwyddyn 1970. Dyma antur gyffrous a phwysig iawn i'r Americanwyr. Fe aeth tri dyn i'r lleuad ar 16 o Orffennaf, 1969. Eu henwau oedd Edwin Aldrin, Neil Armstrong a Michael Collins. Enw'r llong ofod oedd Apolo. Fe aeth y llong ofod o gwmpas y ddaear cyn teithio i'r lleuad. Tua 112 cilomedr o'r lleuad dyma Neil Armstrong yn tanio roced o'r llong ofod. Roedd hyn yn arbed y llong rhag disgyn i'r lleuad yn rhy gyflym. Yna, glaniodd Eryr yn ddiogel ar y lleuad. Roedd y llong ofod wedi teithio pedwar can mil o gilomedrau ac wedi glanio o fewn chwe cilomedr i'r lle cywir ar y lleuad. Fe sylwch mai prin yw'r defnydd o ansoddeiriau, cymariaethau na throsiadau yma gan fod rhaid i'r gohebydd ddweud beth sydd wedi digwydd mor syml â phosibl. Gwrandewch ar y penawdau newyddion yma. Gwnewch nodiadau a thrafodwch - beth sydd o'i le ar yr adroddiad? Trafodwch beth sy'n wahanol am yr iaith. Nid yw gohebydd yn lleisio'i farn ei hun ar unrhyw ddigwyddiad. Mae'n bwysig ei fod yn cyflwyno'r ffeithiau ynghyd â barn pobl eraill - ond nid ei farn ei hun. Cydweithiwch gyda phartner. Beth am i bartner A ddarllen yr adroddiad 'Taith i'r lleuad' gyda phartner B yn ei amseru'n ofalus? Pan rydych chi wedi cwblhau, trafodwch sut y gallwch chi olygu'r adroddiad i'w wneud yn fyrrach. Dechreuwch drwy dorri'r adroddiad fel ei fod pump eiliad yn fyrrach, yna 10 eiliad, yna 15 eiliad yn fyrrach. Beth am ysgrifennu adroddiad am ddigwyddiad pwysig eich hunain. Amserwch eich adroddiad yn gyntaf ac yna ceisiwch ei ymestyn fesul 5 eiliad! Pob lwc! | ||||||||||||||||||
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |