| ![]() |
BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||||||||||||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||||||||||||||||||||
![]() Ffordd o gyflwyno gwybodaeth am destun neu ddigwyddiad arbennig yw adroddiad. Mae adroddiadau i'w gweld mewn sawl lle gwahanol, er enghraifft, mewn papur ysgol, papurau bro, cylchgronau neu bapurau newydd, ar y radio, y rhyngrwyd neu ar y teledu. Gohebydd sy'n ysgrifennu adroddiadau. Mae ffordd arbennig o ysgrifennu adroddiadau ac mae'n bwysig eu hysgrifennu'n ddiddorol bob amser! Mae pob math o wahanol adroddiadau i'w cael. Dyma rai enghreifftiau i chi: ![]() Mae ffurf yr adroddiad yn dibynnu ar y sefyllfa. Bydd gohebydd yn dewis y ffurf sy'n fwyaf addas i'r sefyllfa. Pe byddai'n ysgrifennu ar gyfer papur newydd byddai'r nifer o eiriau'n bwysig i'w ystyried fel ei fod yn ffitio ar dudalen y papur newydd. Pe byddai'n ysgrifennu ar gyfer bwletin newyddion byddai'r cyfanswm o funudau ac eiliadau'n bwysig fel ei fod yn ffitio i amser penodol y bwletin. Gofynnwch i'ch athro/athrawes am wahanol adroddiadau i'w darllen. Darllenwch y gwahanol adroddiadau a rhestrwch y nodweddion sy'n debyg ac yn wahanol rhyngddynt. Rhannwch eich rhestr gyda gweddill y dosbarth. | ||||||||||||||||||
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |