| ![]() |
BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg | ||||||||||||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | ||||||||||||||||||||
Mae 'na adroddiadau ar wahanol pynciau yn cael eu ysgrifennu bob dydd ar gyfer papurau newydd. Efallai bod chi wedi ysgrifennu adroddiad papur newydd yn y dosbarth neu ar gyfer y papur ysgol. Mae 'na nifer o bethau i'w cofio wrth ysgrifennu adroddiad papur newydd: Penawdau Maint y llythrennau yn y pennawd Yn aml iawn mae maint y llythrennau sydd yn y pennawd yn llawer yn fwy na maint y llythrennau yn yr adroddiad ei hun. Rydych chi'n gallu cip-ddarllen pob math o wahanol benawdau. Unwaith bydd pennawd wedi denu eich sylw yna fe allwch ddewis darllen yr adroddiad sydd wedi tynnu eich sylw chi. Dydy pob adroddiad yn y papur ddim o ddiddordeb i bawb yn y teulu e.e. Ydy Mam neu Dad yn darllen am y gemau fideo diweddaraf? Ydych chi'n mwynhau darllen adroddiadau am sefyllfa ariannol pensiynwyr? Pwy a wŷr! Cyflythrennu Mae penawdau da yn bwysig er mwyn tynnu sylw'r darllenydd. Mae'r gohebydd yn gwneud hyn yn aml gan ddefnyddio geiriau sy'n dechrau gyda'r un llythyren. Cyflythrennu yw'r enw ar hyn. Dyma enghreifftiau: ![]() Mae'n bosibl hefyd chwarae gyda geiriau. Mae hon yn ddawn arbennig! Dyma enghreifftiau: 'MWW'y o fwyd i wartheg Ynys Môn! 'Cwstard blas Mwstard! Be nesa!' Casglu Gwybodaeth ![]() Mae gohebwyr yn gwneud gwaith tebyg i dditectif sef casglu gwybodaeth o sawl ffynhonnell er mwyn darganfod beth ddigwyddodd go iawn. Mae'n bwysig bod gohebwyr yn gofyn y cwestiynau hyn:
Unwaith y byddwch chi wedi casglu'r wybodaeth, mae'n bwysig eich bod yn manylu ar y ffeithiau. Mae'n bwysig felly eich bod yn gofyn: ![]() Dyma i chi enghraifft o adroddiad sy'n sôn am ddigwyddiad pwysig iawn. Yr Urdd yn symud i Ganolfan Mileniwm Cymru BETH? Ym mis Hydref 2004, bu prysurdeb mawr yng Nghanolfan yr Urdd ym Mhontcanna, Caerdydd. Cadwyd y cyfrifiaduron a phopeth arall yn ofalus mewn bocsys er mwyn eu symud i'w cartref newydd. BLE? Symudwyd pob dim i lawr y ffordd, i Ganolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Yno hefyd bydd cartref newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru - dim ond tafliad carreg o'r Ganolfan. PRYD? Yn ystod y penwythnos agoriadol ym mis Tachwedd, 2004 roedd seddi'r theatr yn orlawn o bobl, gyda phawb yn mwynhau gwrando ar artistiaid enwog yn perfformio. Roedd cost y seddi'n amrywio ond nid oedd hynny'n poeni llawer ar gynulleidfa'r noson. Dywedodd Mr Thomas o Landybie, "Dyma noson fythgofiadwy. Noson agoriadol y Ganolfan - bydd hyn yn sicr yn rhywbeth i'w gofio pan fydda' i'n hen!" "Beth yw'r ots am bris tocynnau! Allwch chi ddim rhoi pris ar noson fel heno. Anhygoel yn wir!" oedd ymateb Mrs Roberts o Amlwch. PAM? Roedd symud yn angenrheidiol oherwydd bod cyflwr y Ganolfan yn Heol Conwy wedi dirywio'n fawr. Mae'r Mudiad wedi ymuno gyda chwe chwmni arall sy'n byw yng Nghanolfan y Mileniwm. SUT? Nid tasg hawdd oedd symud pob dim o Heol Conwy! Ond yn sicr roedd yn werth yr ymdrech oherwydd fe fydd y Ganolfan yn gartref i Fudiad yr Urdd, Caerdydd am ddegawdau os nad canrifoedd i ddod. Nawr edrychwch ar fwletin newyddion ynglŷn â'r digwyddiad. Is-benawdau Yn ogystal â phrif bennawd, yn aml ceir is-benawdau o fewn y stori hefyd. Fel rydym wedi sôn yn barod, mae defnyddio penawdau ac is-benawdau da sy'n denu sylw'n bwysig. Er mwyn sicrhau trefn arbennig i'ch adroddiad, fe allwch chi ddefnyddio is-benawdau fel bod y darllenydd yn gwybod beth sy'n mynd i gael ei ddweud yn yr adran nesaf. Dyma i chi yr un adroddiad eto, ond y tro hwn mae'n cynnwys is-benawadau: Yr Urdd yn symud i Ganolfan Mileniwm Cymru Mudiad yr Urdd, Caerdydd yn codi pac Ym mis Hydref 2004, bu prysurdeb mawr yng Nghanolfan yr Urdd yn Heol Conwy ym Mhontcanna, Caerdydd. Cadwyd y cyfrifiaduron a phopeth arall yn ofalus mewn bocsys er mwyn eu symud i'w cartref newydd. Datblygiadau yn y Bae Symudwyd pob dim i lawr y ffordd, i Ganolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Yno hefyd bydd cartref newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru - dim ond tafliad carreg o'r Ganolfan. Noson i'w chofio Yn ystod y penwythnos agoriadol ym mis Tachwedd, 2004 roedd seddi'r theatr yn orlawn o bobl, gyda phawb yn mwynhau gwrando ar artistiaid enwog yn perfformio. Roedd cost y seddi'n amrywio ond nid oedd hynny'n poeni llawer ar gynulleidfa'r noson. Dywedodd Mr Thomas o Landybie, "Dyma noson fythgofiadwy. Noson agoriadol y Ganolfan - bydd hyn yn sicr yn rhywbeth i'w gofio pan fydda' i'n hen!" "Beth yw'r ots am bris tocynnau! Allwch chi ddim rhoi pris ar noson fel heno. Anhygoel yn wir!" oedd ymateb Mrs Roberts o Amlwch. Cymdogion newydd Roedd symud yn angenrheidiol oherwydd bod cyflwr y Ganolfan yn Heol Conwy wedi dirywio'n fawr. Mae'r Mudiad wedi ymuno gyda chwe chwmni arall sy'n byw yng Nghanolfan y Mileniwm. Gwerth yr ymdrech Nid tasg hawdd oedd symud pob dim o Heol Conwy! Ond yn sicr roedd yn werth yr ymdrech oherwydd fe fydd y Ganolfan yn gartref i Fudiad yr Urdd, Caerdydd am ddegawdau os nad canrifoedd i ddod. | ||||||||||||||||||
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |