Elin Dafydd, 3 mynd am 4! Haia Tryst. Neis dy weld dros gwyl y nadolig. Nei di plis cofio am fy mhenblwydd y run diwrnod a chdi plis??
Ateb Trystan "Hei Elin, diolch am gysylltu i atgoffa fi am dy benblwydd! Dim lot i fynd wan tan y 26ain, dwi'n sicr o gofio am dy benblwydd di paid a poeni! Mi fyddai ddipyn mwy na 4 oed ma hynny'n saff, cofia gysylltu i ddeud be gesdi fel anrhegion a gobeithio bo chdi'n cael amser wrth dy fodd yn yr eira! Siarad yn fuan, Tryst x "
Awel Fflur, 9 haia trystan ond eisiau gwybod sut mae'r tywydd yng Ngaerdydd ydi'r tywydd yn ymharu a'r ffilmio mosgito? Does dim ysgol i ni yn Ngeiniolen. Hwyl fawr.
Ateb Trystan "Helo Awel, sud wyti? Ma'r tywydd yn eitha drwg fan hyn heddiw sef Dydd Mercher y 13eg o Ionawr ond dwi wedi llwyddo dod mewn i'r gwaith yn anffodus,haha! Braf iawn arna chdi yn cael diwrnod 'off' ysgol, dwi'n cofio fi'n cael lot o ddiwrnodia 'off' pan oni yn ysgol Deiniolen, gret!! Mi na'th hi ddechrau bwrw eira pnawn ddoe cyn i ni fynd yn fyw ar yr awyr, mi geshi fymryn o drafferth mynd adra ond mi neshi lwyddo i ga'l y car o flaen tŷ! Gobeithio fydd y tywydd yn well erbyn y rhaglen foryyyy!! Diolch am dy gwestiwn Awel a chofia fi at pawb yn Deiniolen. Joia'r amser 'off' ysgol a chadwa'n gynnes! Tryst x "
Elin, 3 Haia Tryst. Elin yma o Deiniolen. Mam yn dysgu sud i ddefnyddio cyfrifiadur!!!! Sud wyt'i? Brysur hefo'r sioe dwi'n siwr?
Ateb Trystan "Helo Elin, sud wti? Heb glywed genti ers dipyn!! Mai'n gyfnod eitha prysur rwan gan mai dim ond 4 rhaglen sydd ar ol cyn ni gael brec am yr Haf, ond paid a poeni, mi fyddwn ni nol ym mis medi fo cyfres arall...wohoo! Mi fyddwn ni'n ffilmio eitha dipyn dros yr haf ar gyfer rhaglenni ym mis medi felly cofia ddod nol i'n gwylio ni bryd hynny! Gobeithio bo chdi dal i fwynhau Mosgito ac yn cysylltu eto'n fuan, am y tro Tryst xx"
Tomos, 11 Beth yw'r peth gorae am gael cyflwyno Mosgito a cael bod ar y teledu 2 waith yr wythnos?
Ateb Trystan "Iow, iow, iow Tomos, Sud wyti? Mae cyflwyno 'Mosgito' ddwy waith yr wythnos yn gret, dwi'n meddwl mai'r peth gora ydi bo ni ddim yn gorfod bod yn y stiwdio tan 11.30 sy'n golygu bo fi'n cal chydig o lie-in....haha... na jôc! Dani'n cael gneud gymaint o betha o fewn dwy raglen a dwi wrth fy modd fo hynny, mae o'n cadw chdi ar flaen dy draed ac yn gneud y profiad o gyflwyno rhaglen fyw yn un cyffrous!! Diolch am dy gwestiwn Tomos a caria mlaen i wylio Mosgito, Hwyl Tryst"
Cara, 13 hiiiaaa. ti'n iawn??x
Ateb Trystan "Hei Cara, sud wti? Dwi'n gret diolch, rili mwynhau y tywydd braf! Wrthi'n paratoi heddiw ar gyfer rhaglen 'fory (dydd Iau),trio dysgu sgript a darllen 'chydig o lyfra gan bo fi'n cal sgwrs gyda Saran a Siwan am lyfra sydd allan ar hyn o bryd...dwi'n casau darllen! Gobeithio bo chdi'n iawn ac yn joio Mosgito. Diolch am gysylltu....Hwyl Tryst x"
Mali, 14 Hello! just gair fach i ddweud da iawn i'r corau i gyd dydd Sul yn cystadleuaeth cor Cymru! Yn enwedig cor cantata a chordydd!
Ifan ap Sion, 16 Helo Trystan! Sud mae hi. Dwi'n gwbod dy fod di'n dod o Ddeiniolen yn wreiddiol, felly rwyt ti i arfer clywed bandiau pres, ond pa offerynau wyt ti'n gallu chwarae?
Ateb Trystan "Hei Ifan, Ti'n iawn? Dwi di bod yn aelod o Fand Deiniolen ers pan yn ddim o beth ynghyd â llawer o'n nheulu. Rwy' wedi cael y cyfle i chwarae lot o offerynnau gwahanol. Mae'r broses o ffeindio yr offeryn cywir i ti yn cymryd dipyn o amser gan nid pawb sy'n gallu chwarae pob offeryn. Dwi 'di bod yn chwarae'r trombôn ers dipyn bellach ond ddim yn aelod o fand ar hyn o bryd oherwydd prysurdeb 'Mosgito'. Diolch am dy gwestiwn, cymer ofal....Tryst!"
Elliw, 10 Wyt ti erioed wedi cael brathad gan mosgito?
Ateb Trystan "Yo, yo, yo Elliw... ti'n iawn? Diolch am dy neges di! Ma' hwn yn gwestiwn da iawn a dwi'n meddwl mai ti yw'r cynta i ofyn y cwestiwn yma! Dwi 'rioed wedi cael fy mhigo gan Mosgito go iawn... dwi'n siwr bod o'n eitha poenus! Dwi wedi cael fy mhigo gan bry llwyd o'r blaen, oddo'n rili poenus ac roedd rhaid i mi fynd i weld y doctor...aarrrgghhh!! Gobeithio bo ti'n cael dy bigo gan ein rhaglen ni a bo ti'n mwynhau yr eitemau da ni'n neud, cysyllta eto'n fuan. Hwyl Tryst x"
Cara, 13 heloo tryst. dwi'n caru sioe chi. sut wyt ti?
Ateb Trystan "Helo Cara, sud wyt ti? Dwi'n gret diolch! Wedi blino chydig heddiw ond yn falch bo ni hanner ffordd trwy'r wythnos! Falch iawn bo ti'n mwynhau'r sioe, dani yn cael lot o hwyl yn ffilmio eitemau ac ar ddiwrnod rhaglen yn y ty! Caria 'mlaen i wylio ac os oes gen ti unrhyw syniadau ar gyfer y rhaglen cysyllta â ni! Hwyl am y tro, Tryst x"
Ler a Gwyn Uncle Gwyn yn gofyn "lle mae ei ateb fo mewn pink". Sut wyt ti Tryst? Clywed bod y sioe yn gret. Llawer o gariad, Ler a Gwyn.
Ateb Trystan "Helo Yncl Gwyn ac Anti Ler! Diolch am yrru neges i fi, gobeithio bo chi gyd yn iawn draw yn Canada. Wedi cael dipyn o eira yn fama dros y diwrnodau dwytha,dim byd fel da chi'n gael draw yn fana masiwr! Mae gweithio ar Mosgito yn gret, prysur iawn ar hyn o bryd... mynd i Venice wythnos nesa i ffilmio!! Gobeithio gweld chi gyd yn fuan, cofiwch fi at pawb draw yna. Hwyl, Tryst x"
Tomos Helo Trystan, pwy yw dy arwr di?
Ateb Trystan "Hei Tomos, sud wyt ti? Ma' hwn yn gwestiwn dwi di gorfod ateb o'r blaen ac mi geshi cryn-drafferth i'w ateb bryd hynny gan bo fi'n diddori mewn lot o wahanol feysydd! Ond os fyddeni'n gorfod dewis un dwin meddwl mai'r raliwr o Ddolgellau Gwyndaf Evans fydde fo gan mod i wrth fy modd fo ralio ceir a bod Gwyndaf yn Gymro sydd wedi cael llwyddiant ysgubol! Mae gennai lawer o arwyr eraill cofia di megis Colin Mcrae, Jonathan Ross, Julie Walters.....a.y.y.b! Diolch am gysylltu fo ni Tomos, mi fysa'n gret clywed pwy yw dy arwr di??? Nol at yng ngwaith wan, hwyl ti boi...Tryst!"
Shelly, 12 fi'n hoff iawn o anifeiliad ac actio. Byddwn i'n hoff iawn o bod ar mosgito please roi fi arno fo...
Ateb Trystan "Yo,yo,yo Shelly! Diolch am gysylltu fo ni! Mae'n gret clywed gen bobl fel ti am beth chi'n hoffi ei wneud a ballu! Mae wastad cyfle i rywyn ymddangos ar Mosgito, gyrra neges yn dweud chydig mwy am dy hun fel... lle ti'n byw, be ti'n hoffi neud, beth fydde ti'n hoffi ei wneud ar Mosgito?.. Gobeithio clywed genti'n fuan. Hwyl am y tro... Tryst x"
Gwenno, 13 Hello Trystan, Rydw yn gwylio'r sioe pob wythnos. Ac mae yn great. odi ti yn joio ar Mosgito???????
Ateb Trystan "Yo Gwenno! Ti'n iawn? Dwi'n falch bo chdi'n mwynhau gwylio Mosgito. Dani'n cael lot fawr iawn o hwyl ac yn chwerthin loooot... haha! Mae'r swydd yn un ddelfrydol gan bo ni'n cael gneud gymaint o betha gwahanol fel ti'n weld ar y sgrin! Gobeithio neidi gario mlaen i wylio'r rhaglen a chwethin gymaint a ni... haha! Cysyllta eto'n fuan. Hwyl a sbri, Tryst xx
"
Jodi, 10 Pan roeddwch yn fach, pa ysgol roedd ti di mynd i?
Ateb Trystan "Helo Jodi! Ti'n iawn? Gan bo fi'n dod o Ddeiniolen sydd ger Llanberis, neshi fynd i Ysgol Gynradd Gwaun Gynfi yn Neiniolen, wedyn neshi symud mlaen i Ysgol Uwchradd Brynrefail yn Llanrug sydd tua 5 munud i ffwrdd yn y car! Geshi gymaint o hwyl yn yr ysgol ac mi fyswni wrth fy modd yn mynd yn ôl am y diwrnod i gael gweld os yw petha'n dal run fath. Diolch am dy gwestiwn a cofia gadw mewn cysylltiad, Cariad Mawr, Tryst x"
Telsi, 10 Helo Trystan, rwy'n hoffi gwylio rhaglen Mosgito. Rwy'n gwylio Mosgito nawr bob tro. Chi'n hoffi y swydd? Sut gafoch chi y swydd? Cofia ateb yn ôl...
Ateb Trystan "Helo Telsi, sud wyt ti? Diolch am gysylltu fo ni gyda dy gwestiwn! Dwi wrth fy modd yn cyflwyno Mosgito gan mai cyflwyno dwi di bod isho neud ers pan oni'n fach. Mi nesi lenwi ffurflen yn dweud bod genai ddiddordeb yn y maes cyflwyno, wedyn mi wnaeth BBC Cymru ddod yn ôl atai a gofyn i mi ddod lawr i Gaerdydd am ddiwrnod agored lle naethoni gymryd rhan mewn sawl gweithgaredd, yna cefais fy newis i ddod nôl i Gaerdydd am ail-gyfweliad lle fuesi'n ffodus iawn i dderbyn y swydd... ynghyd ag Ifan ac Erin! Gobeithio bo ti'n mwynhau'r sioe a chofia gysylltu gyda ni eto'n fuan,
Cariad Mawr Tryst x"
Rhun, 10 a Steffan, 11 Helo Trystan! Wyt ti yn mwynhau gwaith chi?
Ateb Trystan
"Helo Rhun a Steff, 'da chi'n iawn bois? Diolch am y neges, dwi yn mwynhau gweithio ar Mosgito yn fawr iawn. Dwi, Erin ac Ifan yn cael gymaint o hwyl gan bo ni'n tynnu coes ein gilydd byth a beunydd. Mae'r swydd yn gret, da ni'n ca'l cymryd rhan mewn cymaint o weithgareddau ac yn mwynhau pob eiliad. Os da chi isho bod yn rhan o'r rhaglen cysylltwch fo ni yn son be da chi'n licio'i neud dros y penwythnos a ballu. Da ni wrth ein boddau yn clywed gan bobl ifanc fel chi, felly cariwch ymlaen i gysylltu. Diolch am y cwestiwn bois. Hwyl Tryst!"
Mari, 9 Haia Trystan, ma' dy sioe yn gret. Rwy'n ei wylio bob nos Fawrth a nos Iau. Ond rwyf wastad wedi bod yn yn meddwl beth oedd dy sialens ora? Edrych ymlaen am yr ateb. Hwyl Mari xxx
Ateb Trystan
"Hei Mari, sud wyt ti? Ti'n iawn? Mae hwn yn gwestiwn anodd iawn i'w hateb, ti di'n nal i allan tro ma... haha! Dwi'n meddwl mai'r sialens neu'r her ora' dwi rioed di gael ydi abseilio lawr ochr Canolfan y Mileniwm yma yng Nghaerdydd. Roedd hwn yn brofiad anghygoel i mi gan nad ydw i'n or-hoff o uchder - d'on i ddim yn meddwl bo fi'n mynd i allu neud o gan bod o 100 troedfedd i fyny, oni'n isda ar dop yr adeilad yn edrych lawr ac yn meddwl... argh!!!! Ond, mi nes i fwynhau mae'n rhaid deud! Os wyt ti angen gweld y clip yna ac unrhyw glip arall o'r rhaglen, yna maen nhw i gyd ar ein gwefan! Gobeithio bo chdi'n mwynhau'r rhaglen, gobeithio clywed genti'n fuan. Diolch am dy gwestiwn Mari.
Hwyl Tryst x"
Mathew, 9 helo Trystan ti'n wicked!
Ateb Trystan
"Iow Mathew, sud wyt ti? Dwi'n falch iawn bo chdi'n meddwl bo fi'n 'wicked', dwi rioed 'di cael neb arall yn meddwl hynny felly diolch yn fawr i ti! Dwi'n berson eitha' hwyliog sy'n hoffi cael amser da felly dwi'n cymryd bo hynny'n gneud fi bach yn 'wicked'. Dwi'n cymryd bo chdi'n gwylio Mosgito ac yn mwynhau gobeithio... diolch yn fawr am dy neges a chofia gadw mewn cysylltiad.
Diolch Math, ti'n 'wicked'!! Tryst"
Tomos, 9 a Sean, 10 Pa chwaraeon ydych yn hoffi chwara?
Ateb Trystan
"Iow, iow, iow! Sud mai chi'ch dau? Dwi wrth fy modd gyda'r gem golff ac wedi mwynhau gwylio cystadleuaeth Cwpan Ryder yn fawr iawn. Mi fydda i'n hoffi chwarae golff yn fy amser sbar hefyd, ond ddim wedi cael cyfle i neud ers tro nawr. Wrth fy modd hefyd yn gwylio pêl-droed a rygbi. Fy hoff dim pêl-droed i yw Aston Villa. Gobeithio bod hyn yn ateb eich cwestiwn chi. Diolch i chi'ch dau a cofiwch gysylltu eto, Hwyl Tryst"
Gwenno, 9 a Sioned, 9 Wyt ti'n enjoio Mosgito?
Ateb Trystan
"Helo chi'ch dwy, ydach chi'n iawn? Diolch am y neges! Dwi wrth fy modd yn cyflwyno 'Mosgito'. Dwi, Erin ac Ifan yn cael gymaint o hwyl yn gweithio fo'n gilydd. Mae Ifan ac Erin allan yn ffilmio heddiw felly fi di'r unig un sydd yn y swyddfa'n paratoi at raglen 'fory. Gymaint yn digwydd ar eich cyfer chi... bydd yr actores a'r gyflwynwraig Lauren Phillips yn y ty yn son am gyfres newydd o 'Dawnstastic' ac hefyd am gyfres newydd 'Strictly Come Dancing'. Gobeithio bo chi'n mwynhau gwylio Mosgito, a cofiwch ein bod ni wastad yn licio clywed genno chi, felly tan y tro nesa....Hwyl Tryst x"
Arwen, 12 Helo, cofio fi roeddwn i yn eistedd hefo ti gwion a john yn y lle bwyta nos fercher, roedd fy yncl yna hefyd mae fy ffrind i Siwan wedi cynhyrfu yn lan hefo'r autograph na. Rhaid i mi ddweud mae y sioe Mosgito yn Rhagorol o arbennig o dda. Mae siwan a fi yn mynd draw i ty ein gillydd i wylio fo dweda helo i Erin A Ifan, sgwenna yn ol, gan Arwenxx
Ateb Trystan
"Helo Arwen, sud wyt ti? Sori bo fi mor hir yn ateb ti nol ond wedi bod yn hynod brysur yn paratoi ar gyfer wythnos gynta ni o ddarlledu! Gobeithio dy fod wedi mwynhau dy hun yn 'Steddfod ac wedi cadw dy hun yn brysur dros wylia'r Haf! Ma'i wedi bod yn eitha prysur arno ni gan bo ni wedi bod yn ffilmio eitemau ar gyfer cyfres 3 o Mosgito sydd wedi cychwyn ers ddechrau Medi. Dwi'n falch iawn bo chdi a Siwan yn mwynhau, daliwch ymlaen i wylio Mosgito a cofiwch cysylltu fo ni drwy ffonio, tecstio neu e-bostio! Diolch am dy neges a gobeithio dy weld yn fuan, Hwyl Tryst x"
Catrin, 14 Helo! Ti cofio fi a fy ffrindia yn yr Eisteddfod, grwp bach o Gaernarfon yn cystadlu yn yr cor? Tynnu llun yn tent Mosgito ac hefyd ar video yn dweud "Ry'n ni wedi cael ein pigo gan Mosgito! Awwww!" Fi roedd yr un gyda'r bumper coch ar dydd Iau! Sgwenna nol so ti'n cofi Hwyl Fawr am y tro! Catrin..x.
Ateb Trystan
"Catrin, sud wyt ti? Sut allai anghofio ti a dy ffrindiau? Chi oedd y criw mwya swnllyd neshi gyfarfod yn 'steddfod dwi'n siwr...hahaha joc! Dwi'n cofio tynnu llun gyda chi ac yn cofio gwneud y fideo er mod i wedi tynnu gymaint o lunia trwy'r wythnos!! Dwi ddim yn cofio os y cafo chi lwyddiant, gad i mi wybod?? Gobeithio bo ti a dy ffrindia di cael amser da yn 'steddfod a bo chi ddim yn rhy ddigalon i fynd yn ol i'r Ysgol! Diolch am y neges a chofia fi at pawb! Hwyl fflag, Tryst x"
Elin, 11 HELO TRYSTAN, TN IAWN, DWI'N LICIO SIOE CHI, LLE DA CHIN GNEUD O?
Ateb Trystan
"Sumai Elin! Falch o glywed dy fod yn mwynhau'r sioe. Rydym yn cael lot fawr o hwyl yn rhoi y sioeau at ei gilydd!! Mae'r rhaglen yn cael ei ddarlledu o dy mawr melyn 'Mosgito' sydd wedi ei leoli ger y BBC yn ardal Llandaf, Caerdydd. Os wyt ti'n gyrru heibio, neidi ddim methu o...hahaha! Gobeithio bod hyn yn ateb dy gwestiwn di. Hwyl am y tro, Tryst x "
Elin, 11 HELO,GAI JYSD GOFYN UN PETH? PWY DI DY FFRIND GORA CHD AR Y SIOE NAI DDIM DEUD WRTH Y NHW DWIN GADDO!!!XX
Ateb Trystan
"Helo Elin, ti'n iawn? Hwn yw un o'r cwestiynau anoddaf dwi rioed wedi ateb! Ond i fod yn deg, ma'r tri ohonom ni yn dod ymlaen yn gret gyda'n gilydd ac mi fyddai'n amhosib i mi ddewis naill neu'r llall! Diolch am y cwestiwn a tro nesa plis paid a gofyn gwestiwn mor anodd....hahaha! Tryst x"
Awel Fflur sut brofiad oedd gweithio gyda,r llygod mawr ha!ha!
Ateb Trystan
"Helo Awel!
Roedd gweithio fo'r llygod yn brofiad anodd iawn i fi ag ifan gan bo gan y ddau ohona ni efo 'ffobia' enfawr o'r creaduriad! Diolch am dy gwestiwn, Tryst x"
Sioned a Elin Dafydd Hi Tryst, dim ond neges bach gan Elin Dafydd i ddweud ei bod yn mwynhau gweld chdi ar y teledu. Mae'n dy nabod di bob tro mae Mosgito ar. Hwyl a fflag. xx
Ateb Trystan
"Helo Elin Dafydd,
Dwin falch bo chdi'n mwynhau gwylio 'Mosgito', gobeithio nei di gadw mlaen i wylio ac i fwynhau'r sioe!
Cariad, Tryst x"
Uncle Gwyn ac Aunty Eleri Helo Trystan - Gwyn a Eleri yma o Canada. Llongyfarchiadau ar Mosgito. Ti'n 'handsome' iawn ar y sgrîn yma, r'un fath a dy Uncle Gwyn! Pob lwc! Cariad a sws fawr gan y teulu i gyd o Canada.
Tomos Morris Helo, ti'n iawn? ma' dy rhaglen yn wych!
Ateb Trystan
"Helo Tomos!
Dwin gret diolch, falch iawn o glywed bo ti'n mwynhau 'Mosgito', caria mlaen i wylio!!!
Hwyl am y tro
Tryst "
Cara Hi Tryst, Cara sydd yma. Dwi yn hoffi sioe chi
Ateb Trystan
"Helo Cara, Dwin iawn diolch! Gret clywed genti a dwi'n falch o glywed bo ti meddwl bod y sioe yn cŵl! Tryst x "
Haf Haia Trystan.Dwi wrth fy modd efo Mosgito ac yn gwylio bob nos fawrth a nos iau.
Ateb Trystan
"Helo Haf!! Dwin falch o glywed bo ti wrth dy fodd a 'Mosgito', diolch yn fawr iawn i ti am gysylltu a caria mlaen i wylio!
Caraid, Tryst x"
Menna Diwrnod sant ffolant hapus i Trystan su ar y sioe gan Menna xx
Ateb Trystan
"Diolch am y cyfarchion San Ffolant Menna, gobeithio y cai fwy blwyddyn nesa! dyma'r unig gyfarchion dwi di gael...........!!! Diolch, Cariad Tryst x"
1. Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Sglodion cartref nain!
2. Pwy yw dy hoff berson/dy ffrind gorau? Ma'n rhaid fi ddweud fy nheulu mashwr, yn does? Sai'n well mi beidio a rhestru fy ffrindia rhag ofn mi adael rhywun allan - ond dwi am enwi Gwion a Trystan gan mai nhw yw fy 'parteners in crime'!
3. Beth sy'n dy wneud di'n hapus? Bod yng nghwmni fy nheulu, a bod allan yn dathlu bod Lloegr wedi colli pêl-droed neu rygbi!
4. Beth sy'n dy wneud di'n flin? Dwi byth yn flin - oni bai pan ma'r cloc 'larwm yn canu!
5. Pa gymeriad cartŵn sydd mwya tebyg i ti? Sonic the Hedgehog - oherwydd fy ngwallt spiky!
6. Beth sy'n dy gyffroi di? Gwylio Cymru'n chwarae rygbi a phan mae'r sgôr yn eitha agos!
7. Ble mae dy hoff le? Copa'r Wyddfa - gan fod y golygfeydd mor fendigedig (ar ddiwrnod braf!)
8. Pa gerddoriaeth sydd ar dy mp3? Dwi'n eithaf hyblyg o ran cerddoriaeth, ond fy hoff fandiau yw - Anweledig, Bryn Fôn a'r Band, Cowbois Rhos Botwnnog, Derwyddon Doctor Gonzo, Frizbee, Genod Droog, Maharishi a.y.y.b!
9. Beth sydd yn dy boced? Twll!!!!!!!
10. Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Dwi o hyd yn gwenu!




