Rachel, 15 Da iawn Gwenan rwy'n credu nes ti gret ar dy sioe cyntaf llongyfarchiadau! Rwyf yn hoff iawn o Mosgito a rwy'n teimlo dy fod yn rhoi lot i'r sioe da iawn a diolch x
jojo, 14mae gwenan yn awsom!!! EllHelo,dwi yn hoffi ti Gwenan ti yn cwl! Angharad, 15Helo Mosgito da iawn Gwennan ar dy sioe cyntaf!1. Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Fy nghath, Jess.
2. Pwy yw dy hoff berson/dy ffrind gorau? Gormod i enwi, sai ishe angofio neb.
3. Beth sy'n dy wneud di'n hapus? Pan ma' pawb arall yn hapus, siopa a siocled (yum) :)
4. Beth sy'n dy wneud di'n flin? Pobl yn gas i bobl arall.
5. Pa gymeriad cartŵn sydd mwya tebyg i ti? Bambi achos fi yw'r ifanca allan o'r tri ohonom a ma popeth mor newydd i fi ond fy hoff cymeriad cartwn yw Tinkerbell.
6. Beth sy'n dy gyffroi di? Amser Nadolig!!!
7. Ble mae dy hoff le? Mae'na gymaint o lefydd ond ers pan o ni'n fach o ni'n mynd ar wylie i Cei Bach yng Ngheredigion a ma 'da fi llawer o atgofion melys o'r lle felly fi'n credu bydd yn rhaid i fi ddweud fan 'na.
8. Pa gerddoriaeth sydd ar dy mp3? Does 'na ddim un math o gerddoriaeth yn benodol arno, mae'n amrywio o Bryn Fôn i Frizbee i gerddoriaeth dawns, i hyd yn oed un neu ddau darn clasurol! Ond ma' rhaid dweud bod llawer o gerddoriaeth Disney ar y disg 'na!
9. Beth sydd yn dy fag? Gormod o bethe! Bag colur, pwrs arian, ffôn symudol, dyddiadur, siocled a botel o ddŵr!! :)
10. Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Fy mod i'n hoffi cwrdd â phobl newydd a dwi wastad yn hapus!! :)



