BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
BBC CymruMosgito, y sioe

BBC Homepage
Cymru'r Byd

Contact Us

Ifan
Gwenan
Trystan

Heledd, 10 Hia Ifan wyt ti yn byw ar fferm?????Dwi yn.Wedi gweld llun ohonot yn cneifio.Wyt ti yn hoffi byw ar y fferm????

Ateb Ifan "Shwmai Heledd. Ydw, dwi yn byw ar fferm, a dwi wrth fy modd yn helpu ag yn mynd adre gymaint a dwi'n gallu! Cneifio ydi un o fy hoff bethau dwi'n mwynhau neud ar y fferm a fydde ni wrth fy modd yn mynd i Seland Newydd rhywbryd i gneifio! Mwynha Mosgito. Pob hwyl, Ifan"

trystan, 13 hi ifan, o ni'n gweld llun o ti yn y galeri yn nofio, sut wyt tin cadw mor iach a fit? wyt tin gweithio allan?

Ateb Ifan "Hia Trystan. Ma' rhaid ti gofio on i'n ifanc iawn pan ga'th y llun yna ei dynnu!!!! Dwi tipyn fwy erbyn hyn ond dwi'n trio cadw'n ffit trwy chwarae pêl-droed ar y penwythnos ag ymarfer yn ystod yr wythnos! Wyt ti'n chwarae pêl-droed neu rygbi neu rhyw fath o chwaraeon? Pob hwyl i ti! Ifan"

Awel Fflur, 9 BETH YW DY FILM GORAU? UN FI YW HSM 3?

Ateb Ifan "Wel Awel, dwi'n meddwl mae fy hoff ffilm i ydi Home Alone neu Dumb and Dumber! Dwi'n hoff iawn o ffilmiau comedi gwirion! Diolch am gysylltu! Cofion gorau - Ifan"

Manon, 14 Heia Ifan! Ti'n fy nghofio i? Roeddwn i yna pan wnaethoch chi'r rhaglen ar 'linedancers'! Sut mae Nan erbyn nawr? Tara!

Ateb Ifan "Haia, Manon. Ydw, fi'n cofio ti - gobeithio bo ti wedi mwynhau dy ddiwrnod lawr yn y stiwdio! Ma' Nan yn gret diolch, a wedi dod dros y 'travel sickness'! Dwi'n treial ca'l hi'n barod nawr i gystadlu mewn treialon yn y misoedd nesa! Pob hwyl, Ifan"

Manon, 14 Falch i glywed am Nan! Rwy'n siwr newch chi'n gret! Cwestiwn - beth bydd dy gyngor i rhywun sydd eisiau cael gwaith yn cyflwyno rhaglen fel chi? Tara!

Bryn symai ifan dwi di dy weld di ar cefn gwlad. be ydei brid dy ddefaid di?

Ateb Ifan "Shwmai Bryn. Brid ein defaid ni ydi 'speckled face' a rydyn ni yn croesi llawer ohonyn nhw gyda hwrdd 'texel' a 'suffolk'. Wyt ti'n byw ar fferm? Gobeithio bo ti wedi mwynhau cefn gwlad! Cymer ofal! "

Tomos, 11 Beth yw'r peth gorae am gael cyflwyno Mosgito a cael bod ar y teledu 2 waith yr wythnos?

Ateb Ifan "Y peth gore ydi cwrdd a shwt gymaint o bobol gwhahnol a diddorol ar y rhaglen a cael y cyfle i neud pethau fydde ni byth yn medru neud ym mywyd go iawn. Pethau fel sky dive a chwrdd â selebs! Mae e'n swydd wych! "

Estz, 11 shwmae!! Ifan-fi yw merch prif Tregaron gyda llaw!!! cwestiwn-pwy yw'r seleb neisia chi di cwrdd ar y rhaglen? hwyl esther xx

Ateb Ifan "Shwmai Esther. Neis clywed 'tho ti. Gobeithio bod pawb yn cadw'n iawn yna! Ma' pob seleb wedi bod yn neis iawn - mi o'dd Sian Lloyd a Shân Cothi yn lot o hwyl, a mi o'dd Nicky Robinson a Geraint Davies yn fois neis iawn, a hefyd mi o'dd Connie Fisher yn gret! Sai'n credu allai ddewis rhyngddyn nhw sori Esther - rhag ofn iddyn nhw fynd a fi i'r llys a siwio fi!haha! Joia'r rhaglen a phob hwyl i ti!"

Gwennan Heia! Ti'n iawn? Roeddet ti'n dda iawn ar Cefn Gwlad! :)

Ateb Ifan "Hia Gwennan. Fi'n dda iawn diolch. Shwt wyt ti? Falch bod ti wedi mwynhau Cefn Gwlad, ges i lot o sport yn ei ffilmio! Wyt ti'n ffan mawr o Cefn Gwlad??"

Gwenno, 13 Helo Ifan, shwd wyt ti? Shwd ma pethau ar y fferm? A'r ci newydd wrth gwrs!!!!!!

Ateb Ifan "Hia Gwenno. Fi'n dda iawn diolch yn fawr i ti! Ma' pethe reit brysur ar y fferm, fel arfer wrth gwrs, a ma' Nan yn iach fel cneuen diolch ti! Gobitho bo ti'n mwynhau Mosgito!"

Sian, 10 Helo Ifan! Os oedd rhaid i chi mynd i fyw ar ynys pell ac yn gallu mynd a tair peth gyda chi - beth bydde'r tair peth??????????

Ateb Ifan "Wwwwwww, cwestiwn da Sian. Y tri peth fydden ni yn mynd gyda fi i ynys bell ydi... brwsh dannedd, pêl er mwyn chware pêl-droed a fy ipod!"

Sion, 10 Ble ydy dy hoff le i fynd ar wyliau?

Ateb Ifan "Hia Sion! Fy hoff le i fynd ar wylie ydi unrhyw le poeth neu diddorol! Ble hoffet ti fynd ar dy wyliau? Dal ati i wylio'r rhaglen! Ifan :) "

Tomos, 10 Helo Ifan! Dwi o Fangor a dwi wrth fy modd yn gwylio Mosgito pan ga'i gyfle. Beth yw dy fath o gar gore heb law am y volkswagon Golf GTI?

Ateb Ifan "Hia Tomos - falch clywed bo ti'n joio'r rhaglen! Dwi'n hoffi llawer o geir fel yr Alfa Romeo Brera neu Ferrari 430, ond os fydden ni yn cael dewis unrhyw gar yn y byd i gyd, dwi'n meddwl mai'r Bugatti Veyron neu Subaru Impreza STI fydde ni'n dewis! Pa gar fyddet ti'n hoffi ei gael pan fyddi di ddigon hen i yrru? Cofia wylio'r rhaglen bob nos Fawrth a nos Iau. Cofion gore, Ifan." Ateb Tomos "Helo Ifan! Y car y byddwn i wrth fy modd yn ei gael bydd bentley continental GT neu aston martin vanquish S. Diolch, Tomos."

Gwydion, 10 Pwy ti'n sybortio yn pêl-droed?

Ateb Ifan "Wel Gwydion, fi'n cefnogi Man Utd (tîm gore yn y byd) a wedi gwneud ers o ni'n fachgen bach! Dwi ddim ise clywed dim un gair drwg yn eu herbyn nhw, reit!!!! Pa dîm fyddi di'n gefnogi? Diolch am anfon dy gwestiwn ata i. Hwyl, Ifan."

Rhianedd, 9, Lowri, 9 a Mari, 9 Pryd ddechreuodd chi gyd ar Mosgito? Sut wnaeth chi gyfarfod eich gilydd?

Ateb Ifan "Helo ferched! Fe natho ni ddechrau mis Medi dwetha' ar ôl cael ein dewis mewn cyfweliad neu 'screen test' fel mae e'n cael ei alw! Dwi wrth fy modd yn cyflwyno Mosgito - ry' ni gyd yn cael lot o hwyl ar y rhaglen, sy'n bwysig iawn! Cofiwch wylio bob nos Fawrth a Iau am 6 o'r gloch"

Arwyn, 10 a Sion, 10 Ydach chi yn hoffi cyflwyno Mosgito a beth ydach chi yn hoffi gwneud ar ddydd Sadwrn? Rydym yn cefnogwyr mawr o Manchester United!!

Ateb Ifan "Dwi wrth fy modd yn cyflwyno Mosgito achos dwi'n cael cyfle i gwrdd â bobol newydd a gwneud pethau fydde ni byth wedi gallu neud oni bai am y rhaglen! Dwi'n hoffi chwarae pêl-droed ar ddydd Sadwrn i Glwb pêl-droed Bont, a dwi hefyd yn ffan mawr iawn o Man Utd! Nhw ydy'r tîm gore yn y byd... ar ôl Bont, wrth gwrs!!"

Rhiannon, 14 Na Ifan. Chi sy'n anghywir. Mae Man Utd yn dim hollol wirion a does gan neb mynadd efo nhw. Os nag ydych chin cofio pawb yn y stiwdio yn cheerio pan idish i na Lerpwl OEDD Y TIM GORAU... Face it =D... Er bod ni fo gwahanol syniadau.. (Rhei chdi braiiidd yn doolally) dachi dal reit cwl... mar stwff ar y wefan wan so mae on sorted:D... xxxx

Angharad, 14 Sut y cyraeddest ti ble yr wyt ti nawr?? (e.e cwrs coleg, profiad gwaith a.y.y.b)

Ateb Ifan Hia Angharad, mi es i i Goleg y Drindod yng Nghaerfyrddin, a bob Haf tra o ni yn coleg mi on i'n gweithio fel rhedwr ar y rhaglen Rasus i S4C ac ar Y Sioe Fawr! Mi o'dd hyn yn gyfle da i mi weld sut ma pethe'n gweithio tu ôl i'r camera ac i wneud cysylltiadau yn y byd teledu! Pob hwyl a gobeithio bo ti'n mwynhau'r rhaglen! Ifan

Rhiannon, 14 Heii.. Dwin un o'r gwegangwyr.. os tn cofio vn siarad fo chdi ar y rhaglen tua 3 gwaith Ifan..=D.. Anfonais pethau i rhoid ar y wefan wythnosau yn ol a dio dal im ar y wefan sooo on in wondero be sydd di digwydd idda fo?! xxx

Ateb Ifan Ydw wir, dwi'n cofio siarad gyda ti! Diolch am anfon stwff i fewn, ond beth yn union nes di anfon? Mi newn ni edrych unwaith eto i weld ble mae e wedyn! Dwi ddim ise cwmpo mas gyda ti am Man Utd Rhiannon, ond dwi'n credu fod angen i ti sylweddoli mae ni ydi'r tîm gore yn y byd, llawer gwell na Lerpwl!!! Dyna ddiwedd ar y mater gobeithio! Welai din fuan! Ifan

Betsan, 12 Shwmai? Be oeddet ti feddwl or gem fawr ddoe!?!? Gret doedd!!! Edrych ymlaen i dy gyfarfod di yn eisteddfod genedlaethol yr urdd eleni!!! Os wy ti'n mynd wrth gwrs!!!! hehe

Ateb Ifan "Shwmai Betsan. O ni'n meddwl bod y gem yn gret, ag odd man utd yn llawn haeddu ennill ar y noson yn fy marn i! Dwi dal i wennu! Dwi ddim yn mynd I'r steddfod yn anffodus ond mi fydd trystan ar y maes yn barod I ddweud helo, dwi'n gwbod y bydde well gen ti gwrdd a fi ond gobeithio gewn ni gyfle I gwrdd yn y dyfodol-haha! Mwynha'r steddfod a cer draw I weld tryst ym mhabell y bbc os gei di gyfle! Pob Hwyl, Ifan"

Connie Hei Ifan. Diolch iti wythnos dwetha. Neis cael dy gyfarfod o'r diwedd. THUMBS UP! :D

Ateb Ifan "Hia Connie, diolch i ti am ddod mewn ato ni i sgwrsio am dy waith a phob lwc yn yr alternative turner prize!Cymer ofal. Ifan"

Awel Fflur beth yw y peth gorau am weithio a'r mosgito?

Ateb Ifan "Shwmai Awel. Y peth gorau am weithio ar Mosgito yw cael mynd i wahanol lefydd a cwrdd a phobol newydd ag hefyd cael cyfle i dynnu coes Erin a Trystan! Diolch am dy e-bost a cadwa i wylio! Cofion gore, Ifan"

Iwan Hedd Pwy yw dy hoff berson?

Ateb Ifan "Shwmai Iwan. Diolch am dy gwestiwn anodd - sain rhy siwr pwy yw fy hoff berson i weud y gwir, ond gan bo rhaid i fi roi ateb , mi na i weud Sir Alex Ferguson, gan fy mod i yn gefnogwr brwd o Manchester United, a mae e wedi neud gwaith arbennig i'r clwb! Diolch am dy gwestiwn a joia'r sioe! Ifan "

IolsHei Ifs, mae'r shoe yn grêt! meddwl ddyle bod reunion ar y cardiau ond neis cael weld ti a Tryst ar y bocs tan hynny! joia xxxxx

1. Beth yw dy hoff beth yn y byd i gyd? Fy nhgar i, sef Volkswagen Golf GT TDi.

2. Pwy yw dy hoff berson? Dwi ddim ise siomi neb so weda i pawb sy'n ffrind i fi.

3. Beth sy'n dy wneud di'n hapus? Chwarae pêl-droed i glwb Bont

4. Beth sy'n dy wneud di'n flin? Camerâu cyflymder

5. Pa gymeriad cartŵn sydd mwya tebyg i ti? Dennis the Menace

6. Beth sy'n dy gyffroi di? Reidio fy moto beic - y buzz gore sydd i'w gael!

7. Ble mae dy hoff le? Adre ar y fferm

8. Pa gerddoriaeth sydd ar dy mp3? Does gen i ddim mp3 - trist iawn.

9. Beth sydd yn dy boced? Ffôn, waled a chwningen... (joc!)

10. Beth yw'r peth gorau amdanat ti? Fy nghlyw - allai glywed pin yn cwmpo!





Cysylltu

Sgen ti gwestiwn ar gyfer Ifan?

Enw:

Oedran:

Sylwadau:


Galeri Ifan


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy