Elen, 12 Mae Mosgito yn gret, mae'r rhaglen yn cymraeg [gwych], mae'r cyflwynwyr yn dda ac yn gwneud y rhaglen yn sbort i wylio, cariwch ymlaen!!!!
Cymraes, 10Helo!!!!! Beth yw'r peth gorau i chi am gyflwyno Mosgito?? RHAGLEN GRET!!!
Ateb Trystan
"Diolch am dy gwestiwn di, mae genai gymaint o uchafbwyntiau y gallwn ddweud am 'Mosgito' a dim digon o le ar negesfwrdd fel hyn i roi popeth, argh!! Dwi'n meddwl mai'r peth gorau ydi cael cyfarfod gymaint o bobl gwahanol. Dwi'n cyfarfod pobl ar hyd a lled Cymru gyfan a thu-hwnt ac yn cael cyfle i neud pethau na fydden i'n meddwl am neud pe bawn i ddim yn gwneud y swydd hon! Gobeithio bo chdi'n mwynhau y rhaglen ac yn cysylltu eto'n fuan, Hwyl Tryst x"
Ateb Erin
"Cael bwyta'r bwyd ry'n ni'n neud ar y rhaglen a thynnu coes Ifan a Tryst!! xxerin"
Ateb Ifan
"Y peth dwi'n ei fwynhau fwyaf am gyflwyno Mosgito ydi cwrdd a phobol newydd a neud pethe fydde ni byth yn cael ei wneud oni bai bo fi yn cyflwyno Mosgito. Falch bod ti'n mwynhau y rhaglen, dal ati i wylio. Pob hwyl, Ifan"
Lili Dwi yn dwli ar y rhaglen - mae'n wych!
Tomos mae mosgito yn wych. dwi'n dwli ei wylio.
Lowri, 12 helo i bawb ar mosgito. rwy'n caru eich sioe ac yn mynd ar y wefan pob tro. rwy'n hoff iawn o wneud gymnasteg a rwyf yn rhan o glwb hefyd. rydym yn ymarfer pob dydd mercher ar ol ysgol. tata, lowri xxxxx
Amy aww gosh, dwin gweld eisio'r sioe nawr! roeddwn ni'n caru fod yn y stiwdio! colli chi loads guys! cariad mawr! dolig llawen a blwyddin newydd dda! amy, cyn gwe-gangwyr. xxx
Niamh, 10Helo, pwy yw eich arwr?
Ateb Ifan
"Hia Niamh, fy arwr i ydy rheolwr pêl-droed Man Utd - Sir Alex Ferguson oherwydd ei fod wedi gwneud gymaint o waith da a wedi bod yn llwyddiannus gyda nhw am gyfnod mor hir!"
Ateb Erin
"Enw hyfryd niamh! Un o fy arwyr i yw Cate Blanchett. Mae hi'n actoress sydd wedi bod mewn lot o fy hoff ffilmiau fel 'Life Aquatic.' Dwi'n meddwl bod hi'n actoress wych, a mae hi hefyd yn hynod o alluog ac yn neud lot o waith da i elusennau. xxe "
Kate, 10Helo, beth yw eich hoff fwyd? Ta ta am nawr... gweld chi heno ar sioe Mosgito!
Ateb Ifan
"Hia Kate - fy hoff fwyd i ydi Lasagne, tatws wedi'u berwi a pis! Neu unrhyw beth a cig ynddo fe i weud y gwir! Joia'r rhaglen!"
Ateb Erin
"Helo Kate, diolch am wylio! Fy hoff fwyd i ar hyn o bryd yw bwyd 'thai' oherwydd es i am 'green curry' hyfryd y noson o'r blaen! xxe"
Ateb Trystan
"Helo Kate,diolch am dy gwestiwn! Dwi'n meddwl mai fy hoff fwyd yw 'chips a sosej' fo llwyth o halen, finegr a sos coch... mmmm dwi'n meddwl mai dyna ga'i i swper heno! Cariad mawr, Tryst x"
Jack, 11 Beth yw eich hoff rhaglen Doctor Who?
Ateb Ifan
"Wel Jack, dwi ddim ise dy siomi di, ond sain gwylio Doctor Who o gwbwl yn anffodus! Paid a'i ddal e yn fy erbyn i cofia!"
Ateb Erin
"Yr un pan o nhw'n mynd mewn i'r 'black hole!' Pa un yw dy hoff un di? xxe"
Ateb Trystan
"Hei Jack, ti'n ok? Fy hoff raglen ar hyn o bryd yw 'The Family' ar Channel 4, dwi wrth fy modd yn gwylio'r gyfres yma ac wrth gwrs Mosgito... rhaglen orau yn y byd, haha!!! Gobeithio bo ti'n mwynhau'r rhaglen, hwyl Tryst! "
Connor, 11 Beth yw eich hoff wlad ond am Gymru?
Ateb Ifan
"Wel Connor, dwi'n credu mae fy hoff wlad yw America- dwi erioed wedi bod ond mae fen edrych yn wych a dwi wastad wedi eisiau mynd!"
Ateb Erin
"Yr Ariannin (Argentina), es i i eirafyrddio yna pan o ni'n 20 a ges i'r amser gorau - mae'r wlad mor brydferth a'r bobl yn hyfryd. xxe"
Ateb Trystan
"Hei Connor, dwi wrth fy modd yn byw yma'n Nghymru a swni byth yn meddwl symud i fyw mewn gwlad arall, ond dwi wrth fy modd ag Awstralia ac America (New York yn enwedig) ac os y byddai gennyf ddigon o arian mi fyddwn yn mynd ar fy ngwyliau yno'n eithaf aml, diolch i ti am dy gwestiwn a cofia adael mi wybod 'lle yw dy hoff le di?? Hwyl am y tro, Tryst!"
Sioned, 11Helo griw Mosgito! Dwi yn hoffi gwylio Mosgito bob nos Fawrth a Iau am 6 o'r gloch ar y dot, Ifan ti'n ddoniol - dwi'n hoffi ti yn cyflwyno yn fawr!
Cadi, 10Helo Cadi ydw i a fe hoffwn ddeud fy mod i yn gallu sgrechian yn andros o uchel!!!!
Keli, 14Mae gennyf lawer o brofiad ac rwyf wedi bod yn bresenol yn rhagle newydd sbon, yn ddiweddar. Hefyd rwy'n ffan mawr ac yn gobeithio y gaf y cyfle i fod yn rhan o'r sioe rhyw ddiwrnod!!!
Ateb Ifan
"Diolch am e-bostio ni Keli. Yn anffodus, ni wnes di rhoi dy gyfeiriad e-bost gyda'r neges felly dydyn ni methu cysylltu â thi! Anfona dy fanylion cyswllt at [email protected] a bydd y tim cynhyrchu yn cysylltu gyda ti am y posibilrwydd o neud rhywbeth ar gyfer y sioe! Mwynha'r sioe a dal ati i wylio! Pob hwyl, Ifan"
Ryan, 16Helo tim Mosgito! Diolch o'r galon am y gyfle o gyflwyno'r eitem masnach deg! :) roedd yn braf cwrdd a'r criw (gan cynnwys chi, Erin a Tryst!), a gobeithio bydd cyfle arall yn fuan i ymweld a chi yn y stiwdio. hwyl am y tro! x
Tomos MorrisHelo, ti'n iawn? ma dy rhaglen yn wych!
Ateb Ifan
"Wel shwmai Tomos, dwi'n dda iawn diolch yn fawr i ti - gobitho bo ti'n cadw'n iawn! Dwi'n falch bo ti'n meddwl bod y rhaglen yn wych, Ni'n cael lot fawr o hwyl yn ei gwneud hi a dwi'n falch bo ti'n mwynhau! Cymer ofal, a cadw mlaen i wylio. Ifan"
Ateb Trystan
"Helo William, dani yn hynod falch bo ti a dy chwaer yn hoffi'r sioe! Caria mlaen i gysylltu a gobeithio clywed genti'n fuan!!
Hwyl am y tro,
Tryst!"
Ateb Ifan
"Shwmai William - dwi'n falch bod ti a dy chwaer yn mwynhau y rhaglen, daliwch mlaen i wylio a pob hwyl i ti! Ifan"
Ash & Caz haia mosgito! awww! ma hwnna'n pigo! ma'ch sioe chi'n gret! x



