Lefel TAG Uwch
Wyt ti’n mwynhau gwaith ysgol? Yn disgwyl cael graddau TGAU da?
Am ddal ati i astudio? Yna, efallai mai lefel A/AS yw’r dewis i ti! Pam dewis lefel TAG Uwch? Mae prifysgolion yn rhoi pwyslais mawr ar lefel A TAG. Os wyt ti’n disgwyl graddau A*, A, B neu, mewn rhai achosion C ar lefel TGAU ac am fynd ymlaen i brifysgol, efallai mai lefel TAG Uwch/AS fyddai’r dewis gorau i ti. Lefel TAG Uwch- Ffeil ffeithiau
TIP
TANBAID! | Gellir cymysgu lefel TAG Uwch/AS a CGCCau yn haws gyda’r cyrsiau CGCC Uwch newydd: Tair uned TAAU = un lefel AS Chwe uned TAAU = un lefel TAG Uwch Deuddeg uned TAAU = dwy lefel TAG Uwch |
WYDDET
TI? | Fe elli gymryd y Cymhwyster Sgiliau Allweddol newydd mewn Cyfathrebu, Defnyddio Rhif a TG ochr yn ochr â lefel TAG Uwch, AS neu TAAU erbyn hyn. |
Pa lefelau TAG Uwch/AS ddylwn i eu cymryd? Beth nesa ar ôl lefel TAG Uwch/AS? |