GNVQ/(TAAU) AVCE Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (CGCCau)
Am aros ymlaen, ond dyw Lefel TAG Uwch/AS ddim yn apelio? Byddai’n well gen ti gwrs sy’n cydgysylltu dysgu â byd gwaith? Efallai mai GNVQ/TAAU yw’r ateb i ti! Pam dewis GNVQ/AVCE? Cyrsiau yn yr ysgol neu goleg y gelli di eu cymryd ar eu pen eu hunain neu ochr yn ochr â TGAU a lefel TAG Uwch/AS yw GNVQs (General National Vocational Qualification) ac TAAU (Tystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch). Nid yw GNVQs na TAAU wedi eu bwriadu i hyfforddi rhywun ar gyfer swydd benodol ond i ddysgu gwybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol i feysydd gyrfaol bras, fel Busnes neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae yna lefelau gwahanol o GNVQs a TAAU sy’n gweddu i’r rhan fwyaf o bobl. Os oes gen ti ryw syniad o’r math o waith rwyt ti am ei wneud, os wyt ti’n mwynhau gwaith cwrs, prosiectau grwp a dysgu drwy weithgareddau, beth am holi mwy am GNVQs a TAAU? Am gael cymhwyster sy’n ymwneud yn fwy penodol â
swydd arbennig? Dos i Hyfforddiant yn y Gwaith Byddai’n well gen ti gadw at y llwybr academaidd traddodiadol? Edrycha dan Lefel TAG Uwch/AS. GNVQ Sylfaen Ffeil ffeithiau - Angen un neu ddau TGAU neu ddim TGAU o gwbl
- Cwrs blwyddyn fel arfer · Rhan Un = dau TGAU D-G
- Dyfarniad llawn = pedwar TGAU D-G
- Y graddau llwyddo yw: Pasio, Teilyngdod neu Anrhydedd
- Gall arwain at addysg bellach neu waith/hyfforddiant.
GNVQ Canolradd Ffeil ffeithiau - Angen pasio rhai TGAU - mae graddau D-G yn dderbyniol
- Cwrs blwyddyn fel arfer
- Rhan Un = dau TGAU A*-C
- Dyfarniad llawn = pedwar TGAU A-C
- Y graddau llwyddo yw: Pasio, Teilyngdod neu Anrhydedd
- Gall arwain at addysg bellach neu waith/hyfforddiant.
GNVQ Uwch Ffeil ffeithiau - Angen pedwar TGAU graddau A*-
- Cwrs dwy flynedd fel arfer
- Dyfarniad ‘tair uned’ = un AS
- Dyfarniad ‘chwe uned’ = un lefel TAG Uwch
- Dyfarniad ‘deuddeg uned’ = dwy lefel TAG Uwch
- Graddau A – E er mwyn gallu cymharu’n hawdd â lefel TAG Uwch/AS
- Gall arwain at addysg uwch neu waith/hyfforddiant
TIP
TANBAID! | Gelli gymryd y cyrsiau lefel AS a TAG Uwch newydd ochr yn ochr â’r cyrsiau TAAU newydd felly mae’n haws cymysgu TAAU gyda lefel TAG Uwch/AS |
WYDDET TI? | Gelli nawr gymryd cymwysterau sgiliau allweddol newydd mewn Cyfathrebu, Cymhwysedd o Rifau a TG, ochr yn ochr â'th TAAU. |
Pynciau GNVQ Beth Nesa Ar Ôl GNVQ? |