BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
News image
Nôl i'r dudalen gartref
News image
News imageswyddisgiliauhyfforddiantaddysg uwchaddysg bellachNews image
News image

BBC Homepage
Addysg
»Jyst y Job
Swyddi
Sgiliau
Hyfforddiant
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Siarad o brofiad
English

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

News image
News imageNews imageNews imageNews imageNews image
News image
News imageNews image
Alison LewisNews image
News image

News image Astudio GNVQ, yn mynd ymlaen i wneud HND

Oed: 20

Cartref: Ystalyfera

Coleg:
Yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, wedi astudio GNVQ Uwch Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a bellach yn astudio HND mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda'r posibilrwydd o wneud blwyddyn ychwanegol i'w droi'n radd.

Hefyd yn gweithio'n rhan-amser fel gweithiwr cefnogi i bobl anabl a phobl ag anawsterau dysgu.

Pam coleg:
Fe wnes i benderfynu gwneud GNVQ yn y coleg gan nad oeddwn i'n hoffi fy hen ysgol, ac roeddwn i angen newid. GNVQ oedd y cwrs gorau i fi gan ei fod yn weddol gyffredinol ei naws ac yn addas ar fy nghyfer i, yn hytrach nag astudio tri phwnc Lefel A penodol.

Pam mynd ymlaen i wneud HND:
Fe wnes i benderfynu mynd ymlaen o GNVQ i wneud HND. Er y gallwch chi gael swyddi da gyda GNVQ, pe bawn i'n penderfynu newid cyfeiriad mewn blwyddyn neu ddwy, fe fyddwn i angen mwy o gymwysterau. Dwi'n gwybod na fyddai gen i amynedd i fynd yn ôl i'r coleg bryd hynny, felly fe wnes i benderfynu gwneud y cyfan nawr, ac addysgu fy hun yn llawn. Mae HND yn ddwy rhan o dair o radd. Mae pobl sy'n pasio HND yn cael swyddi cymharol dda, ac maen nhw hefyd yn sicr o le ym mlwyddyn olaf y cwrs Gradd BA tair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd os ydyn nhw eisiau parhau.

Y cwrs:
Aseiniadau, cyflwyniadau, llyfr cofnod sy'n broffil personol o'ch datblygiad, astudiaethau achos, traethodau ac ymchwil. Pan yn gwneud GNVQ, roeddwn i'n ysgrifennu aseiniadau drwy'r amser, ac er bod llai ohonyn nhw mewn HND, mae'r pynciau'n anoddach.

Pwyntiau da:
Dwi ddim yn meddwl bod yr HND mor anodd â GNVQ, dim ond bod disgwyl gwaith o safon uwch ac mae angen disgrifio popeth yn fwy eglur. Deuddydd o waith yr wythnos sydd 'na, ond mae'n waith caled gan ei fod yn gwrs llawn-amser. Mae'n golygu 'mod i'n gallu gweithio hefyd, ac mae hynny'n gwneud y cyfan yn ariannol bosib. Fe fyddai'n llawer yn fwy anodd i mi fynd ar gwrs 5 diwrnod yr wythnos, gan mod i'n byw 30 milltir i ffwrdd ac fe fyddwn i'n defnyddio mwy o betrol. Fyddwn i ddim yn medru gweithio 'chwaith, felly fe fyddwn i'n colli'r profiad o weithio gyda phobl, sy'n rhan mor bwysig o'r cwrs hwn. Mae'r system dau ddiwrnod yn llawer mwy cyfleus i bobl sydd â theuluoedd.

Pwyntiau drwg:
Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi am y cwrs yw'r cyflwyniadau. Mewn grwpiau o bedwar, mae'n rhaid i ni drafod pynciau fel Cyfleoedd Cyfartal. Rydyn ni'n dewis polisi, yn ei astudio'n ofalus ac yna mae pawb yn siarad am 7½ munud ar y pwnc. Y broblem yw, mae'n rhaid i ni wneud hyn dros linell fideo i Gaerdydd, fel bod yr arholwyr yn medru'n gweld ni! Mae'n brofiad ysgytwol iawn!

Coleg v Prifysgol:
Dwi ddim yn meddwl y byddai gwneud y cwrs yma mewn prifysgol yn wahanol iawn, gan fod y gwaith yr un fath. Ond mae coleg yn fwy cyfleus i bobl gyda phlant, gan fod y gwyliau fwy neu lai'n cydredeg.

News imageNews image
News image
EnglishNews image

Hefyd...
Myfyrwyr eraill
Sêr
Llwyddiannau

...yn siarad o brofiad

Hefyd...
Addysg Bellach
GNVQ


News imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews imageNews image
News image
top
News image
swyddi
News image
sgiliau
News image
hyfforddiant
News image
add. uwch
News image
add. bellach
News image
sgwrs
News image


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy