In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
12 Tachwedd 2008
Gohebydd rhyfel y BBC, Wynford Vaughan Thomas, yn cofio croesi'r Rhine yng nghwmni Montgomery a chadfridogion eraill ym mis Mawrth 1945.

Wynford Vaughan Thomas (1908 - 1987)
Dechreuodd Wynford Vaughan Thomas ei yrfa gyda'r BBC yng Nghaerdydd yn 1936 fel aelod o griw darlledu allanol.
Dewiswyd ef yn ddiweddarach i fod ymhlith y criw dethol o ohebwyr arbennig i ddod â hanes brwydro'r Ail Ryfel Byd i filiynau o gartrefi. Dyma'r criw cyntaf o ohebwyr rhyfel yn hanes darlledu.
Enillodd Thomas y Croix de Guerre yn 1945 am ei waith. Roedd y gohebwyr yn ei chanol hi, yn dod â hanes y brwydro a'r lladd o El Alamein, Malta, Arnhem a thraethau Normandy.
Fe gofir am adroddiadau Saesneg Wynford Vaughan Thomas o awyren Lancaster dros Berlin ac hefyd o draethau Anzio.
Yr Ail Ryfel Byd
Gogledd orllewin

Straeon rhyfel
O warchod yr Arglwydd Haw Haw i suddo llongau tanfor: atgofion lleol.



