Coal House at War

Ynglŷn â Coal House at War
Mae'r ail gyfres o Coal House wedi dychwelyd i BBC Cymru - y tro yma dan gysgod rhyfel.
Fis Hydref 2008 anfonwyd tri theulu yn ôl mewn amser i weld sut roedd bywyd mewn cymuned lofaol yng Nghymru yn 1944.
Dewiswyd y teulu Griffiths o Rydaman, y teulu Paisey o Gaerdydd a'r teulu Tranter Davies o Ferthyr Tudful o blith cannoedd o ymgeiswyr oedd yn awyddus i gyfnewid bywyd prysur y 21ain ganrif am ffordd o fyw symlach a chael cip ar sut roedd pobl yn byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae'n rhaid i'r teuluoedd ymdopi â dogni bwyd, bygythiad cyrchoedd awyr, blacowts a thrin y tir tra'n byw yn un o fythynnod bach cyfyng y 1940au a godwyd i'r glöwyr ar y bryniau ger Blaenafon.
Fel y gwelwyd yn y gyfres gyntaf, mae dynion a bechgyn dros 14 oed yn gorfod wynebu'r caledi o gerdded dros y mynydd ym mhob tywydd i weithio diwrnod hir fel glöwyr ym mhwll Blaentillery Rhif 2 - y pwll olaf o'i fath ym Mhrydain sy'n dal i gael ei weithio. Mae'n rhaid iddyn nhw hefyd ddelio â gofynion perchennog y pwll, Mr Blandford.
Yn y cyfamser mae'r menywod yn gorfod rhedeg y cartref dan amodau bywyd 1944 gan ymgymryd â gwaith cyfnod y rhyfel a dyfeisio ffyrdd newydd o ddefnyddio blawd corn a'r dognau prin sydd ganddyn nhw i fwydo eu teuluoedd.
Y tro yma hefyd mae gan y teuluoedd ymwelwyr: ifaciwîs sy'n hiraethu am adref a rhai o'r Bevin Boys a gafodd eu galw i ymladd ac yna eu hanfon i gloddio am lo.
Darlledir Coal House ar BBC One Wales ac mae'n gynhyrchiad gan Indus Films i BBC Cymru.Tell us a war story

Tell us you or your family's stories and recollections of living through World War II




