|  |
 Y Rhyfel a'r Dirwasgiad Faciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Effaith y Dirwasgiad Y mae’r dirwasgiad yn rhoi terfyn ar y cynnydd diwydiannol a fu’n mynd ar garlam am ganrif a hanner. Y mae pobl yn gadael Cymru wrth eu miloedd - 390,000 yn gadael rhwng 1925 a 1939. Nid yw poblogaeth Cymru yn cyrraedd y rhif ydoedd yn 1925 tan 1973. Canlyniad y segurdod di-ddewis yw ffataliaeth ac anobaith. Mae byw ar enillion bychan yn cael effaith ar iechyd pobl ac ar gyflwr eu tai. Mae’r prawf moddion - sy’n golygu llai o fudd-dal diweithdra os oes gan deulu incwm o ffynhonnell arall - yn arwain ar wrthdystiadau enfawr, yn eu plith protest ar 3 Chwefror 1935, gan hyd at 300,000 ar strydoedd Cymru. Mae methiant ymddangosiadol cyfalafiaeth yn hwb i achos y Sosialwyr a’r Comiwnyddion, sydd ar flaen y gad ym mhob protest. Mae’r dirwasgiad yn yr ardaloedd diwydiannol yn ergyd i ddiwylliant y capeli a’r iaith Gymraeg. Arweiniodd ffrae ynglyn â chynorthwyo’r di-waith at gwymp Llywodraeth Lafur 1929-31, ac ym marn y Llywodraeth Genedlaethol a ffurfiwyd nid oedd dim i’w wneud ond aros i bethau wella. Yn 1937, serch hynny, mae’r llywodraeth yn dechrau cynorthwyo cwmnïau sy’n creu swyddi mewn ardaloedd o ddiweithdra uchel - gan sefydlu’r polisïau economaidd rhanbarthol hynny a fyddai mor fanteisiol i Gymru. Ond er y swyddi newydd - yn enwedig mewn llefydd fel gwaith dur Glyn Ebwy a stad ddiwydiannol Trefforest - a chynifer o bobl ddi-waith yn ymfudo, nid yw economi Cymru yn gwella rhyw lawer. Yn y mis olaf cyn y rhyfel, Awst 1939, mae 15.2% o wrywod yswiriedig Cymru yn ddi-waith.
Yr Ail Ryfel Byd Y mae’r rhyfel yn datrys problem diweithdra, dros dro o leiaf. Erbyn 1941 mae gan bron bawb sy’n abl i weithio, swydd, ac mae canran y menywod sy’n ymuno â’r gweithlu yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig. Ar ben hynny, mae’r rhyfel yn lladd pymtheg mil o Gymry ac mae galw ar lawer mwy i fynd i weithio mewn ffatrïoedd yn Lloegr. Credir bod Cymru’n rhy bell i gyrchoedd awyr yr Almaenwyr; mae’r holl faciwîs swyddogol ac eraill sy’n ffoi rhag y bomio yn ychwanegu rhyw ddau gan mil at rif y boblogaeth. Ond di-sail yw’r gred bod Cymru’n ddiogel, fel y profodd y cyrchoedd ar Abertawe yn Chwefror 1941. Serch hynny, mae nifer o ddiwydiannau rhyfel yn cael eu sefydlu yng Nghymru, gan gynnwys stordai arfau enfawr ym Mhenybont ar Ogwr. Y mae llai o alw am weithwyr yn y diwydiannau trymion, ac mae hynny’n creu’r gobaith am fwy o amrywiaeth economaidd wedi’r rhyfel. Oherwydd prinder bwyd mae’r ffermwyr yn cael mwy am eu cynnyrch. A’r rhyfel yn llusgo ymlaen mae yna benderfyniad yng Nghymru fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig na fydd ailadrodd holl helbulon y 1930au. A’r agwedd meddwl yma yw’r brif ffactor yn llwyddiant ysgubol y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 1945.
 |  | 
|  © MM | | |
|
|