| Roedd ffrwydron nwy mwstard yn cael eu cynhyrchu yma ac fe gyfrannodd y gwaith yma at y gwaith ymchwil cyntaf i'r bom atomig. Roedd nifer o bobl leol yn gweithio yma, ac wedi eu siarsio i gadw'r gyfrinach am natur eu gwaith. Cafodd y safle ei ddadgomisiynu yn 1946-48 a'i wneud yn ddiogel yn nes ymlaen cyn cael ei ddatblygu'n warchodfa natur fel y mae yn y lluniau uchod.
 |