 |  |  | Frizbee Ywain Gwynedd, prif leisydd Frizbee, sy'n sôn am ei arwyr a'i hoff gigs, er mai dim ond hanner y stori tu ôl i enw'r band gawn ni ganddo fo .... Frizbee yn y Faenol |  |  |
 | Aelodau Owain Jones ar y bâs, Jason Hughes ar y dryms a fi (Ywain Gwynedd - dde) yn canu ac yn chwarae'r gitâr.
O lle Ardal Ffestiniog - er nad oes 'run ohonon ni o Blaenau ei hun! Dwi o Llan Ffestiniog ac Ows Coch o Danygrisiau, fel hogia Anweledig ac Estella. Mae J yn dod o dros y Crimea yn Nolwyddelan, er ei fod wedi ei fagu yn Llan a 'da ni wedi bod yn ffrindiau ers talwm.
Pryd wnaethoch chi ffurfio? 2003.
Pam ddaru chi ffurfio band? Roedd Jase a fi yn yr ysgol fach efo'n gilydd, ac ro'n i yn yr ysgol uwchradd efo Owain. Er fod J wedi symud i Ddolwyddelan, mi ddaru ni ddod yn ffrindiau da efo Owain.
Ddaru ni weld Stomp Radio Cymru efo Owain a Dylan cwpwl o flynyddoedd yn ôl a meddwl y byse ni'n rili hoffi cymryd rhan, a chwarae o flaen gymaint o pobl.
Roedd Ows wastad wrth ei fodd efo miwsig. Mae ei frawd mawr, Phil Jones, yn aelod o Estella. Ond yn y cychwyn, doedd J nac Ows ddim yn gallu chwarae offeryn felly ddaru Ows benderfynu dysgu'r gitâr fâs ac roedd gen i hen set o ddryms i J eu defnyddio.
Gig gwaetha Dweud y gwir yn onast, Stomp Stiniog. Ni oedd y band cyntaf am 11:30 y bore. Doedd neb yna, ddaru amp y bâs chwythu ac wedyn mi ddaru hi gychwyn bwrw! Ond roedd o'n swnio'n reit dda ar Radio Cymru wedyn felly doedd o ddim mor ddrwg yn y diwedd!
Gig gorau Mae o rhwng dau. Mi ddaru ni agor gig Anweledig yn Eisteddfod Casnewydd a dyna'r tro cyntaf i ni weld lot o bobl yn canu ein caneuon. Daeth dros gant o bobl i'r blaen i wrando arnon ni.
Ond yr un mor dda a hwnna, mewn ffordd wahanol, oedd gig yng nghlwb rygbi Dolgellau y dydd Sul ar ôl Sesiwn Fawr. Pawb yn dawnsio ar ben y byrddau a'r lle yn llawn.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi? 'Da ni gyd i fewn i Supergrass ar y funud, yn enwedig yr albwm ddiweddaraf i ddathlu bod efo'i gilydd am ddeng mlynedd, a phob trac yn glasur.
Ddaru nhw gychwyn fel three piece, fel ni, a nhw sy'n setio'r safon. Maen nhw mor broffesiynol.
Mae'r Gogz yn fand gwych hefyd. Maen nhw 'di'n helpu ni lot ers i ni gychwyn, yn chwarae'r dryms wrth i J ddysgu a wastad yn gofyn i ni chwarae efo nhw. Maen nhw'n hogia grêt.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon? Fi sy 'di sgwennu'r naw cân ar yr albwm gyntaf, gan fy mod wedi sgwennu lot o ganeuon cyn i Jase ag Ows ddysgu sut i chwarae'r offerynnau yn iawn. Ond roedd trac wyth, Dora Gusan, yn combined effort rhwng Ows a fi. Mae o 'di dod yn un sy'n gallu dod i fyny efo hooks a baselines gwych.
Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig? Mynd adre a chysgu! Da ni weithiau yn cael cwpl o beintiau i fynd mewn i'r un m?d a phawb arall ond dim gormod.
Dydi o ddim yn roc a rôl iawn gan fod J yn gorfod codi'n gynnar i weithio yn y chwarel.
Dwi'n gweithio'n rhan amser mewn swyddfa a mae Ows yn gweithio mewn ffatri wlân dros yr haf.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw? Y Sugar Puff monster!
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd? Ar ôl i ni ddefnyddio trombôn a chornet ar yr albwm mae rhai wedi dweud ein bod ni'n adlewyrchu ein hardal ac mae hynny'n wych i'w glywed.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo? Piwma, gan fod ganddyn nhw egni!
O lle ddaeth yr enw? Ga' i'm deud! Wel, mae 'na fersiwn fudr ac un glân! Mae Frizbee yn un o'r geiriau 'na sy'n colli ei ystyr os 'da chi'n ei ddweud drosodd a throsodd, yn debyg i 'carreg'. Yn ôl un ffrind, bob tro mae'n gweld y gair 'frizbee' rŵan dydi o ddim yn meddwl am y petha da chi'n eu lluchio, dim ond amdanon ni!
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair: Egnïol, hwyl, ymmm!
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai? Ar ben y Crimea.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon? Mae fy nghariad newydd sythu fy ngwallt cyrls. Mae ganddon ni gig yn Ninas Mawddwy heno a dwi am drïo rhywbeth gwahanol! Roedd o'n lyfli - mi fyswn i'n gallu cysgu rŵan!
 |  |  |
 |  | Ann Williams o Llanfairfechan Rwyf yn chwilio am grwp cymraeg e.e. Frizbee i chwarae yn penblwydd 18 fy merch Aws 4ydd, oes rhestr i gysylltu ar gael? diolch steven a jamie o blaenau helo sut mai,cariwch ymlaen canu caneuon gwych chi. Aron & Gyw Caneuon da bois Non, Francess ac Andrew o Bwllheli Frizbee am byth!!! :) :) hynny oll sydd gen i i ddeud.... jemma o abertawe dwi'n carru Frizbee! dath nhw i ysgol ni gyda Bandit, a roedd y plant yn mynd yn 'wild' amdono nhw! fy hoff person yn y band yw JASON HUGHES oherwydd mae'n golygys a hefyd mae'n fan mawr o'r Red Hot Chilli Peppers a nhw'n fand gorau yn y byd a mae Frizbee yw'r gorau yng Nghymru Cet Haf o Fachynlleth!!! Wel helo frizbee!!!! wel rwyn hoff iawn ohonoch ac rwyn falch i ddweud fy mod wedi cwypo mewn cariad hefo ywain!!!! Rwyn hoff iawn o'i wallt ac sut mae'n chwarae ei gitar!!!sexi!! diolch frizbee am bopeth!! frizbbe am byth! |  | |
|
 |  |  | Gwefan Frizbee
|  |  |  | Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |  |  |  |
|