BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

BBC Homepage
HAFAN Cymru
Newyddion
Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
Gêm C2
Gigs
Gwegamerâu
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
Storïau
Siart

Bitesize TGAU
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio CymruC2 ar Radio Cymru
News imageFrizbee
Hirnos
Gorffennaf 2004

Mae Frizbee wedi glanio!
Chwe mis yn ôl, ychydig iawn o son oedd am y band Frizbee, ond erbyn heddiw mae hi bron yn amhosib i droi'r radio ymlaen heb glywed y band! Mae pawb yn siarad am Frizbee - un o'r bandiau mwyaf addawol ers i Meilyr Gwynedd o'r Big Leaves bigo fyny'r gitâr a strymio'r Tannau Dur!

Gyda llond trol o ganeuon cofiadwy a phrif leisydd sy'n llawn charisma, mae pethau'n edrych yn arbennig o dda i'r band o Flaenau wrth iddyn nhw ryddhau eu halbym cyntaf - Hirnos. A bydd tair o ganeuon yr albym yn gyfarwydd iawn i wrandawyr Radio Cymru, oherwydd fel Sesiwn C2 gafodd Dora Gusan, Ti (Si Hei Lw), ac Ar ôl 9 eu recordio'n wreiddiol. Cliciwch yma i glywed y sesiwn yn llawn.

Gafodd y CD ei rhyddhau ar Orffennaf 1af ar label newydd y band, Recordiau Côsh, ond beth oedd barn adolygwyr yr wythnos am yr albym? Hefin Thomas, prif leisydd Mattoidz, a Rachel Phillips o Glwb Ifor Bach yng Nghaerdydd daeth i stiwdios C2 at Huw Stephens ar Fehefin 24ain. Ond oedden nhw eisiau treulio "hirnos" yn gwrando arni, neu a fydde well ganddyn nhw daflu Frizbee i ffwrdd?

News imageGwrandewch ar adolygiad o Hirnos

Bydd y band yn chwarae mewn llwythi o gigs dros yr haf, gan gynnwys rhannu llwyfan gyda Anweledig yn Maes B yn Steddfod Casnewydd ar nos Fercher, Awst 4ydd. Cliciwch yma i weld rhestr llawn o gigs Cymru.



Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy