BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ywain Gwynedd, prif-leisydd FrizbeeFrizbee ffîfyr?
Mae Heledd Elfyn, Mared Elfyn a Rosie Young yn amlwg yn ffans o Frizbee, band sy'n dod o'r un ardal â nhw - Ffestiniog. Maen nhw'n gofyn ai Frizbee ydy band y ddegawd?
"'Chydig iawn ohonom yn yr ardal hon sydd heb glywed am lwyddiant ysgubol y band trydanol Frizbee.

Gwta ddwy flynedd yn ôl, fodd bynnag, selogion y byd roc Cymraeg a Chymreig yn unig fyddai wedi gallu rhestru mwy nag un o'u caneuon gafaelgar. Bellach, wrth gwrs, mae hi bron yn amhosib gwrando ar Radio Cymru heb glywed llais unigryw Ywain Gwynedd yn treiddio dros y tonfeddi a nhw hefyd aeth a bryd cynulleidfaoedd niferus Maes B yr Eisteddfod Genedlaethol; Sesiwn Fawr Dolgellau; Gŵyl Miri Madog a Tân y Ddraig ym Mangor; Gŵyl Pen Draw'r Byd ym Mhen Llŷn - heb anghofio ein gŵyl leol yma, Gwyl Car Gwyllt .

Sefydlwyd y band yn ôl yn 2003 gyda Ywain Gwynedd fel prif leisydd, Owain Jones ar y bâs a Jason Hughes ar y drymiau a'r flwyddyn gyntaf honno yn gweld bwrw prentisiaeth fer trwy ddiddanu cyfoedion a chyfeillion o amgylch Stiniog cyn dechrau mentro ymhellach o gartref fel band cefnogol i artistiaid mwy llwyddiannus.

Bellach, gyda nifer helaeth o ganeuon cofiadwy yn rhan o'u repertoire a tair CD ymhlith y rhai sy'n gwerthu orau, mae pethau'n edrych yn hynod hynod addawol i'r hogiau. Dydy hi ddim yn synod felly iddyn nhw gyhoeddi yn ddiweddar eu bod am roi'r gorau i'w gwaith dyddiol a chanolbwyntio ar fod yn fand llawn amser. Tipyn o her a sialens i unrhyw un sydd yn gorfod ennill eu bara menyn yn y diwylliant cyfrwng Cymraeg yn unig.

Uchafbwynt eu gyrfa fer yn ddi-os oedd dod i'r brig yn siart Mawredd Mawr Radio Cymru eleni. Fe enillodd y band fwyafrif helaeth o bleidleisiau y cyhoedd hefo'r gan egniol a hudolus Da Ni Nôl. Mae hi'n haws gosod mawredd y gamp mewn cyd-destun pan ystyriwch mai Dafydd Iwan a Bryn Fôn ddaeth agosaf i'w trechu. Cantorion profiadol oedd yn blasu llwyddiant cenedlaethol ymhell cyn i hogia Frizbee gael eu geni !

Cymysgedd o faledi a chaneuon roc cofiadwy sy'n nodweddu Hirnos a Lennogiaeth ac os ydy rhywun yn gwrando ar y gerddoriaeth yn fyw mewn dawns neu gyngerdd mae hi'n amhosibl peidio dechrau siglo ac ysgwyd i rhythm y sŵn. Cewch glywed nifer o'r hen ffefrynnau ar y cryno ddisgiau gan gynnwys Dora Gusan a Ti [Si Hei Lw] ond mae cydbwysedd teg yn y detholiad rhwng y ffefrynnau hynny ac arlwy newydd sbon.

Fel bydda rhywun yn ei ddisgwyl, mae gigs y band wedi bod yn hynod lwyddiannus a'r dyddiadur yn llawn dop am gyfnod estynedig. Does 'na'm byd yn llwyddo fel llwyddiant medda nhw!

Cafodd sîn roc y 60au yng Nghymru ei ddylanwadu gan synau unigryw Meic Stevens; y 70au a'r 80au gan deyrnasiad godidog Edward H a Geraint Jarman. Ai ffîfyr Frizbee tybed, fydd yn nodweddu blynyddoedd cynnar y ganrif hon?"

Heledd Elfyn, Mared Elfyn a Rosie Young

Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy