BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

FrizbeeHaf prysur Frizbee
Ar ôl methu ag ymddangos ar lwyfan y Faenol 2005 am fod y prif leisydd, Ywain Gwynedd, wedi dal clwy'r pennau yn yr Eisteddfod, cafodd Frizbee gyfle i ddod â'u hysbryd afieithus i noson Tân y Ddraig 2007.
"Mae fyny i ni eu blastio nhw oddi ar y stêj," meddai Jason Hughes, y drymiwr am ei gyd-berfformwyr, Fflur Dafydd a'r Barf, Steve Eaves, Sibrydion, Huw Chiswell a Bryn Fôn, cyn y noson fawr.

"Ma'n amsar inni ddangos iddyn nhw be' 'di roc a rôl," ychwanegodd Ywain Gwynedd, a'i dafod yn ei foch wrth gwrs. "'Mond ni a Sibrydion sy'n gallu rocio - ma Chiz a Bryn Fôn rhy hen a 'ma Fflur Dafydd i mewn i jazz, so mae ar ein hysgwyddau ni a Sibrydion i ddod â 'chydig bach o roc a rôl i Tân y Ddraig! Fel arall, jyst anadl y ddraig fydd o!"

Frizbee yn y Faenol Yn ôl yr hogia, blastio miwsig da, a dim byd arall ydy eu strategaeth nhw ar gyfer gwneud hynny, gyda sŵn eu set yn cael ei lenwi gydag adran offerynnau pres.

Mae'r Faenol yn cloi cyfres o dri gig mawr i Frizbee dros yr haf - y gyntaf oedd Gŵyl Geltaidd Lorient yn Llydaw ddechrau Awst, lle roedd Sinead O' Connor a'r Dubliners ymhlith artistiaid y gwledydd Celtaidd oedd yn chwarae yno. Yna'n syth i Eisteddfid Sir y Fflint lle roedden nhw'n cloi rhialtwch yr wythnos ym Maes B ar y nos Sadwrn olaf, ac yna ymlaen i Ŵyl y Faenol, a noson Tân y Ddraig ar nos Lun y 27ain o Awst.

"Ma'n un o'r llefydd mwyaf - 'dan ni wedi gwneud y Sesiwn Fawr, a mae'r Faenol yn amlwg yn un fawr arall," meddai Alan Jones, sy'n chwarae trwmped i'r band, gan weithio fel optegydd weddill yr amser.

Mae'r band yn ôl yn y stiwdio ar hyn o bryd yn recordio eu pumed albwm, sy'n dipyn o gamp o feddwl mai dim ond ers 2003 maen nhw wedi bod wrthi.

"Mae'r band wedi ein cynnal ni ers dwy flynedd rŵan," meddai Ywain. "Gigio ydy'r gyfrinach.

"Mi wnaethon ni 130 o gigs y flwyddyn dwytha ond 'dan ni wedi slofi lawr y flwyddyn yma. Ti'm isio gweld yr un gwyneba yn rhy aml felly oedd rhaid inni slofi i lawr.

"Ond mi rydan ni'n dibynnu arnyn nhw am ein bywoliaeth, felly 'dani'n gorfod dal i fynd.

"Ond, y cyngor sydd gen i i fandia ifanc sy' ella'n meddwl ein bod ni'n 'crap' a falla nad ydyn nhw ddim yn cîn ar ein miwsig ni: ella bod eu miwsig nhw'n well ond ti'n gorfod ei roi o allan yna a ti'n gorfod gigio."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Radio Cymru
Digwyddiadau
Adolygiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy