Adeiladwyd y cestyll Saesneg fel canolfannau gweinyddol, ac i ddynodi pŵer dros y Cymry. Ond roedd y cestyll Cymreig o gymeriad tra gwahanol.
Cawsant ei adeiladu ar ben brigiadau creigiog er mwyn rheoli llwybrau trwy'r mynyddoedd a sicrhau ffiniau Brenhiniaeth Gwynedd.
Mae'r cestyll Cymreig hefyd yn edrych yn dra gwahanol. Ar y cyfan, nid oes ganddynt dyrau sy'n uwch na dau lawr, na chwaith waliau uchel gyda nifer o dyrau er mwyn amddiffyn. Mae nhw'n fwy tebygol o gael tyrau siâp d, neu gromfannol, o faint eithaf sylweddol. Nid oedd gan Tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) cymaint o arian a'r brenhinoedd Saesneg, na chwaith yr adnoddau. Nid oedd yna draddodiad o adeiladu gyda cherrig yng Nghymru ac felly buasai'n sialens i'w weithwyr dorri a chludo'r holl adnoddau. Mae yna gryn dipyn o gofnodion ynglŷn â chestyll Edward I sydd dal ar gael hyd heddiw. Ond prin iawn yw dogfennau yn ymwneud a chestyll Llywelyn. Nid oes gennym ni felly tystiolaeth am sut ddaru o lwyddo i ariannu'r adeiladu, na sut a phwy oedd am eu defnyddio. Ond rydym yn sicr eu bod wedi cael eu hadeiladu fel arwydd o bŵer a dylanwad Llywelyn dros ei diroedd. Lluniau cestyll Llywelyn: Castell y Bere Castell Dolwyddelan Castell Cricieth Castell Dolbadarn
 |