Cafodd y castell yma ei adeiladu rhywbryd rhwng 1200 ac 1220. Mae o'n sefyll ar ben bryn mewn safle gwych i reoli'r llwybrau a phorfeydd gwartheg yn y mynyddoedd. Byddai hyn yn bwysig iawn er mwyn cynnal y frenhiniaeth. Mae gan gastell Dolwyddelan dŵr hirsgwar, mewn steil gorthwr Normanaidd oedd braidd allan o ffasiwn erbyn y cyfnod yma. Roedd gan y tŵr un llawr ac islawr yng nghyfnod Llywelyn, a byddent wedi cyrraedd pen y tŵr drwy ddringo grisiau allanol. Pan gafodd y castell ei gipio gan ddynion Edward I, cafodd y tŵr gwreiddiol ei ymestyn ac adeiladwyd ail dŵr i'r gorllewin, ar ochr arall y cwrs. Roedd garsiwn yn y castell tan y 15fed ganrif. Yna, cafodd ei rhentu gan Meredydd ap Ieuan ap Robert. Aeth y castell yn adfeilion ar ôl i Meredydd adael, er ddaru Iarll cyfoethog Fictoraidd atgyweirio'r bylchfuriau ac ychwanegu'r gwteri sy'n ymwthio allan o amgylch y castell. Roedd y cestyll Cymreig, i gyd wedi eu lleoli ym mhlith y mynyddoedd, yn boblogaidd iawn gydag artistiaid yn y cyfnod yna a byddent wedi dod o bell i'w peintio. Cafodd Llywelyn ap Iorwerth ei eni heb fod ym mhell o'r castell yma, ar ochr draw'r cwm. Mae rhywfaint o adfeilion tŵr Ton y Castell dal i'w weld heddiw. Peter Humphries
Cestyll Llywelyn
 |