Adeiladwyd Castell Cricieth yn y 1230au ac mae'n sefyll ar fryn uchel uwchben Bae Tremadog. Mae gan y castell yma waliau allanol mwy sylweddol na rhai eraill Llywelyn. Nid yw'r porthdy gyda'i ddau dŵr mor nodedig â'r un yng nghastell Conwy, ond mae o dal yn drawiadol ac yn anarferol iawn ym mhlith y cestyll Cymreig.
Ar ochr ddwyreiniol y castell y mae Tŵr yr Injan. Rydym yn tybio eu bod wedi gosod trebuchet yna, sef peiriant rhyfela i luchio cerrig at y gelyn, yn debyg i gatapwlt.
Mae sawl ffrae wedi bod dros y blynyddoedd wrth geisio dyddio'r castell. Ond erbyn heddiw, y gred yw mai Llywelyn ap Iorwerth ddaru adeiladu ward mewnol y castell, a'i ŵyr, Llywelyn ap Gruffydd, yn dychwelyd i adeiladu'r ward allanol.
Yna, ar ôl i'r Saeson gipio'r castell yn y 1280au, cafodd yr amddiffynfeydd a'r tyrau eu cryfhau gan Edward I a II. Cafodd rhan fwyaf o'r castell ei ddinistrio yn y 14 ganrif yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr. Er i'r Saeson gadw eu gafael ar rhan fwyaf o gestyll Cymry - ac felly ar y wlad ei hun - llwyddodd dynion Glyndŵr i losgi castell Cricieth, a'r pentref ger llaw. Gellir gweld oelion tân ar y waliau hyd heddiw.
Daeth yr arlunydd Turner i wneud sawl braslun o'r castell. Yna, pan ddychwelodd i'w stiwdio i greu'r peintiad gorffenedig, trodd y castell 180˚ ar ben y graig, efallai i roi cefndir well iddi! Peter Humphries
Cestyll Llywelyn
 |