 |  |  | Teithiau Cerdded Ewch ar drywydd rhai o deithiau cerdded yr ardal ar y gwefannau yma, sy'n rhoi cyfarwyddiadau a gwybodaeth gynhwysfawr ichi. Cysylltwch os hoffech chi enwebu teithiau neu wefannau eraill neu ewch i'n safle Cerdded. |  |  |
 | Parc Cenedlaethol Eryri http://www.eryri-npa.co.uk/ Mae gwefan y Parc yn rhoi disgriaid a mapiau deniadol ar gyfer nifer o deithiau cerdded unigol yn Eryri. Cliciwch ar 'Hamdden' i weld teithiau cerdded a gweithgareddau eraill. Mae'r teithiau wedi eu rhannu yn Deithiau Ysgafn a Theithiau Mynydd, yn dibynnu ar eich diddordeb a/neu eich gallu.
Cyngor Gwynedd http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?cat=2711&doc=9184 Mae adran Gerdded Cyngor Gwynedd yn rhoi disgrifiad, map a chyfarwyddiadau ar ffurf dogfennau pdf ar gyfer 10 o lwybrau drwy'r sir.
Cyngor Sir Ynys Môn http://www.ynysoddewis.com/doc.asp?cat=255 Yn ogystal â Llwybr yr Arfordir, mae'r safle deniadol yma yn dweud wrthych sut i gael gafael ar amrywiol daflenni cerdded yr ynys, manylion Gŵyl Gerdded Môn ac amrywiol gylchdeithiau cerdded.
Cymdeithas y Cerddwyr http://www.welshwalks.info/ Wrth bwyso'r botwm chwilio fe ellwch chi ddod o hyd i daith gerdded mewn unrhyw ardal yng Nghymru ar gyfer gwahanol allu neu ddewis eich llwybr o'r map.
Cymdeithas Edward Llwyd http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Mae'r gymdeithas hon yn trefnu dros 100 o deithiau cerdded drwy Gymru bob blwyddyn, bob un dan ofal arweinydd sydd â diddordeb arbennig mewn gwahanol agweddau ar fyd natur a hanes Cymru.
Walking Wales (Bwrdd Croeso Cymru) http://www.walking.visitwales.com Mae'r safle yma'n rhoi cyngor ichi i brif ardaloedd cerdded Cymru, gwyliau cerdded a theithiau hir.
Cerdded Arfordir Môn http://cerdded-arfordir-mon.mysite.wanadoo-members.co.uk/ Wyth taith gerdded o amgylch arfordir Ynys Môn.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
 |  |  |
| 
|