 |  |  | Rygbi Efallai nad ydy ardal y gogledd mor enwog am ei thimau rygbi â'r de ond mae'r clybiau'n hyfforddi'n galed i gyrraedd y brig - heb anghofio mwynhau eu hunain hefyd! Gadewch inni wybod os oes ganddoch chi wefannau da eraill. |  |  |
 | Clwb Rygbi Pwllheli http://www.pwllhelirfc.com/cymraeg/index.htm Ar safle tîm Pwllheli mi gewch chi wybodaeth glir a chyfredol am gemau, chwaraewyr a swyddogion yn ogystal â chael newyddion diweddara'r clwb yn y Gymraeg neu Saesneg.
Clwb Rygbi Bethesda http://www.rygbipesda.com/ Rydych chi'n mynd i mewn i'r safle yma drwy ddalen gartref eithaf plaen ond hawdd iawn ei defnyddio. Ceir digon o wybodaeth ddwyieithog am hanes y clwb, cyfleusterau ac aelodau a'r cyfan mewn ffordd gyfeillgar a chroesawgar.
Clwb Rygbi Bangor http://www.bangor-rugby.co.uk/ Mae'r safle ardderchog yma sy'n hawdd ei ddefnyddio yn cynnig cyflwyniad llawn i Glwb Rygbi Bangor. Ceir adroddiadau a lluniau o'r gemau diweddaraf, canlyniadau a dyddiadau gemau sydd i ddod a chyfle hefyd i'r cefnogwyr ddweud eu dweud ar fwrdd negesuon y clwb. Gellir gweld digon o luniau o anturiaethau'r chwaraewyr a chlywed am yr enwogion sydd wedi chwarae i'r clwb. Un feirniadaeth fach ydy ei bod yn dweud ei bod yn cynnig dewis Cymraeg ond does dim o'r tudalennau ar gael yn Gymraeg. Er hynny, mae cefnogwyr Bangor yn lwcus iawn!
Clwb Rygbi Bae Colwyn http://www.colwynbayrugby.co.uk/ Safle hawdd ei ddefnyddio sy'n cynnwys yr holl ffeithiau angenrheidiol i unrhyw un sy'n cefnogi clwb Bae Colwyn. Fe gewch y canlyniadau diweddaraf, cysylltiad i dudalennau'r tîm ieuenctid a'r tîm iau a hanes y clwb. Mae hefyd yn cynnwys ffeithiau am Fae Colwyn ei hun ac yn cynnig cyswllt i wefannau sy'n rhoi rhagolygon y tywydd ar gyfer yr ardal - er y gallai hynny eich perswadio i beidio mynd i'w gweld yn chwarae os ydy hi'n glawio!
Clwb Rygbi Caernarfon http://www.clwbrygbicaernarfon.co.uk/ Mae gwefan newydd Clwb Rygbi Caernarfon yn un clir, bywiog a hawdd ei defnyddio gyda thudalen newyddion ddifyr a gwybodaeth am gemau'r prif dîm, y tîm ieuenctid a'r tîm merched. Yn ogystal, mae tudalen ar gyfer yr adran iau ac ar gyfer tîm ychydig yn hŷn y clwb sy'n mynd dan yr enw Y Gogs. Mi gewch chi hefyd rywfaint o hanes y clwb ac mae modd ymuno â'u rhestr bostio ar gyfer derbyn y newyddion diweddaraf.
Clwb Rygbi Nant Conwy http://freespace.virgin.net/llifon.llifon/ Safle Gymraeg yn bennaf ac yn cynnig gwybodaeth am leoliad y cae, yr hanes a digwyddiadau'r clwb. Mae'n hawdd ei ddefnyddio ac yn cynnwys digon o luniau o dimau'r dynion a'r merched ond does dim sôn am ganlyniadau'r tymor hwn.
Undeb Rygbi Ieuenctid Cymru (Saesneg) http://www.wyru.freeserve.co.uk/ Rhaid bod yn gyfarwydd â chynghreiriau a chwpanau amrywiol yr undeb i gael hyd i wybodaeth am gemau penodol yn gyflym. Mae'r penawdau ar gyfer pob tudalen yn glir ond mae cynifer o glybiau ac adrannau i fynd drwyddynt nes ei fod yn golygu chwilio drwy gruglwyth o wybodaeth. Ond, o ddyfalbarhau, fe gewch ganlyniadau gemau a gwybodaeth am y rhai sydd i ddod yn ogystal â manylion sut y gall pobl ifanc gymryd rhan yn y gêm.
Sgarmes.com http://sgarmes.com Negesfwrdd ar-lein uniaith Gymraeg i drafod pob dim am y byd rygbi efo pobl o ledled y byd. Awgrymwyd gan Aled
Clwb Rygbi Llangefni http://www.llangefnirfc.com/ Mae tîm cyntaf y clwb yma yn chwarae yn Adran 3 y Gorllewin tra mae'r ail dîm yn chwarae yng ngynghrair Gogledd Gwynedd, ond mae manylion y timau merched, ieuenctid a iau ar y wefan yma hefyd yn ogystal â fforwm drafod fywiog, gemau, canlyniadau a lluniau. Awgrymwyd gan Siôn Aron.
Mwy am rygbi lleol
Beth am chwaraeon eraill? Cliciwch yma am fwy o wefannau ar Pêl-droed, Golff, chwaraeon eraill.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
 |  |  |
| 
|