 |  |  | Chwaraeon Mae rhywbeth at ddant pawb yn y byd chwaraeon yn yr ardal hon ac mae'r gwefannau isod yn trafod campau mor amrywiol â Zanshin Shukokai ac athletau! Os ydych chi'n gwybod am wefannau eraill, rhowch wybod inni. |  |  |
 | Clwb Rhedeg Harriers Abergele (Saesneg) http://www.AbergeleHarriers.co.uk/ Safle cyfeillgar a bywiog sy'n rhoi'r argraff bod clwb Abergele Harriers yn un bach ond ffyniannus. Os ydych chi am redeg marathon Llundain neu am wneud ychydig o ymarfer corff, mae'r safle yn trafod popeth am redeg, yn cynnwys dyddiadau a llwyddiannau diweddaraf y clwb a digwyddiadau cymdeithasol. Mae'r botymau llywio yn ddisgrifiadol iawn er nad ydyn nhw'n dilyn o un dudalen i'r llall.
Clwb Badminton Pen y Gogarth http://www.geocities.com/greatormebc/ Mae digon o luniau o chwaraewyr ac adnoddau'r clwb ar y safle hwn yn ogystal â gwybodaeth ar sut i ymuno a lle i fynd. Dydy'r bar llywio ddim yn mynd dim pellach na'r ddalen gartref, ond mae yna gysylltiadau defnyddiol â gwefannau badminton eraill yng ngogledd Cymru a thu hwnt.
Clwb Criced Mochdre (Saesneg) http://www.mochdrecc.freeserve.co.uk/ Safle cyfeillgar hawdd i'w ddefnyddio i'ch cyflwyno i Glwb Criced Mochdre. Mae'n cynnwys gemau a chanlyniadau, hanes y clwb a chyflwyniad i'r dref ar atyniadau lleol. I'r rheiny ohonoch sydd angen ychydig o help efo'ch sgiliau, mae'r safle'n cynnwys awgrymiadau ar dechnegau batio a bowlio.
Undeb Hoci Cymru, Gogledd Cymru (Saesneg) http://www.btinternet.com/%7Ed.siddorn/whu.htm Mae'r safle hwn yn crynhoi'r cyfan sy'n digwydd yng Nghyngrair Hoci Gogledd Cymru. Rhestrir dyddiadau pob gêm ac erbyn wyth o'r gloch ar nos Sadwrn mae'r holl ganlyniadau ar y safle hefyd. Gellir darllen cofnodion cyfarfodydd a phwyllgorau'r gwahanol gyrff sy'n rheolir gêm a chysylltu â safleoedd clybiau yng ngogledd Cymru.
Ffederasiwn Karate Traddodiadol Cymru http://www.karatecymru.org/ Cangen Cymru o Ffederasiwn Karate Traddodiadol Rhyngwladol sydd â chlybiau yn Ynys Môn, Dyffryn Conwy, Pen Llŷn, Caernarfon a Bangor. Mae'n rhoi gwybodaeth gyswllt glir i'r clybiau lleol a rhestr ddefnyddiol o ddolenni eraill ar gyfer dilynwyr karate'r ardal.
Clwb Karate Seki Ryu Zan, Bangor http://www.sekiryuzan.org/ Gwefan broffesiynol y clwb karate traddodiadol yma ym Mangor sy'n aelod o Ffederasiwn Karate Traddodiadol Cymru. Cawn gyflwyniad i'r clwb, ei egwyddorion a'r math o karate Shotokan maen nhw'n ei ddysgu. Mae digon o luniau a gwybodaeth glir am yr hyfforddwyr a'r aelodau yn ogystal ag eglurhad o'r grefft. Un o elfennau mwyaf deniadol y wefan ydy'r fforwm drafod fywiog lle gall dilynwyr selocaf y gamp drafod karate drwy'r dydd, os dymunan nhw! Yr unig feirniadaeth, o bosib, ydy nad ydy'r clipiau ffilm o'r gwahanol symudiadau yn gweithio ...
Clwb Moduron Bala a'r Cylch (Saesneg) http://www.llandrillo.demon.co.uk/balamc/ Safle rhwydd llywio drwyddo sy'n cynnwys lluniau hen geir wedi malu'n rhacs! Cewch wybod am hanes y clwb, digwyddiadau yng nghalendr ralio gogledd Cymru a hynt a helynt yr aelodau yn y gwahanol gystadlaethau.
Clwg Bowlio Craig y Don (Saesneg) http://www.williams5739.freeserve.co.uk/ Safle cyfeillgar a llawn gwybodaeth am y clwb gan gynnwys manylion am yr adnoddau, aelodaeth, cylchlythyrau a chysylltiadau â safleoedd clybiau bowlio eraill. Beth am roi cynnig ar y cwis? Mae'n hawdd teithio o gwmpas y safle ond rhaid defnyddio'r botwm i fynd yn ôl i ddychwelyd i'r dudalen flaenorol.
Cliciwch yma am wybodaeth am Rygbi, Golff, Pêl-droed.
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
 |  |  |
| 
|