BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwefannau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

GolffGolff
Mae digon o ddewis i olffwyr yng ngogledd orllewin Cymru - naill ai chwarae ar gwrs lincs, parc, cwrs pencampwriaethol neu un naw twll cyfeillgar. Ewch ymlaen i ddarllen am y dewis sydd ar gael isod a chofiwch adael inni wybod os oes un da ar goll.
Clwb Golff Ynys Môn
http://www.theangleseygolfclub.com/
Mae'r safle hwn yn cynnwys manylion llawn am bob twll ar gwrs Rhosneigr yn ogystal ag adroddiadau a rhestr ddigwyddiadau. Mae'r testun braidd yn fân a dydy'r bar llywio ddim yn dilyn o dudalen i dudalen, ond mae'r dudalen gartref yn un liwgar a llawn gwybodaeth.

Clwb Golff Abersoch
http://abersochgolf.co.uk
Mae'r ddalen gartref liwgar yn llawn cysylltiadau at wybodaeth ddefnyddiol a chyfredol am gyfleusterau'r clwb a'i ddigwyddiadau. Mae yna hefyd ddisgrifiad manwl o'r cwrs a'r costau. Ond rhaid symud yn ôl i'r ddalen gartref er mwyn mynd i dudalennau eraill y safle.

Cwrs Golff Frenhinol St Davids, Harlech
http://www.royalstdavids.co.uk/
Mae'r safle hwn wedi'i gynllunio'n dda ac yn hawdd i'w ddefnyddio. Mae'n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol i ymwelwyr. Mae'r manylion sylfaenol fel rhifau ffôn, swyddogion y clwb a disgrifiad byr o'r cwrs i gyd ar y ddalen gartref. Os ydych chi eisiau gwybod mwy, mae'r botymau ar ben bob tudalen yn eich arwain at y tudalennau cywir.

Clwb Golff Porth Llechog, Amlwch
http://www.bullbaygc.co.uk/
Mae'r safle hwn yn un cyfeillgar a hawdd i'w ddefnydddio. Mae'n cynnig yr holl wybodaeth am gyfleusterau'r clwb yn ogystal â chynllun manwl o'r cwrs a cherdyn y clwb. Ond mae'n anodd gweld os ydy'r rhestr ddigwyddiadau yn un cyfoes gan nad yw'n nodi'r flwyddyn.

Clwb Golff Silver Birch, Betws-yn-Rhos
http://www.d-m-jones.co.uk/golf/
Safle syml ond effeithiol. Mae'r holl fanylion am ffioedd a chyfleusterau'r clwb wedi'u nodi'n gryno ar y ddalen gartref. Awgrymir hefyd beth allwch chi ei wneud ar ôl y gêm, fel gwledda mewn tai bwyta lleol.

Clwb Golff Nefyn a'r Cylch
http://nefyn-golf-club.com/
Mae'r safle llawn lluniau yma yn cynnig gwybodaeth syml am ddigwyddiadau i ferched a dynion, mapiau a disgrifiadau o'r hen gwrs ar un newydd. Rhaid dychwelyd i'r ddalen gartref i grwydro mwy drwy'r safle, ond mae yna gysylltiadau defnyddiol iawn i westai, tai bwyta a chyfleusterau lleol.

Clwb Golff Pwllheli
http://www.pwllheligolfclub.co.uk
Mae'r safle cyfredol yma'n rhoi gwybodaeth am beth sy'n digwydd yn y clwb - pwy sydd ar y blaen mewn cystadlaethau, sut i ddefnyddio cyfleusterau'r clwb ac yn cynnig awgrymiadau am lle i aros i ymwelwyr. Rhaid mynd nôl i'r ddalen gartref i gael gwybod am y cwrs, y siop a'r digwyddiadau diweddaraf. Dim ond eich cysylltu ag adrannau gwahanol fel adran yr oedolion a lleoliad y clwb mae'r bar llywio ar yr ochr dde.
Enwebwyd gan BB.

Clwb Golf St Deiniol
http://www.st-deiniol.co.uk/index2.html
Dyma safle hawdd llywio drwyddo sy'n cynnwys llawer o luniau a ffotograffau. Mae'n dweud popeth sydd raid ichi ei wybod am y cwrs golff yma, gan gynnwys arweiniad i bob twll, costau a'r cyfleusterau. Mae'n cynnig gwybodaeth am atyniadau twristaidd eraill ym Mangor hefyd.

Diddordeb mewn campau eraill hefyd? Cliciwch ar y gwefannau Rygbi, Pêl- droed, Campau eraill.


Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy