BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Neuadd Bentref ClynnogEisteddfod Clynnog Fawr a'r Cylch
Y Neuadd Bentref
Mai 12 2007 (ail Sadwrn Mai)
Ysgrifennydd: Mrs Gwyneth Woodall (01286) 660 091
Cafwyd eistedfod lwyddianus yn 2007 dan arweiniad Mrs. Nesta Jones, Pant Glas a Mr. Ifan Glyn Jones, Penygroes. Mr. Bleddyn Williams, Caernarfon oedd Llywydd y Dydd a'r cyfeilydd oedd Mr. H. Alan Roberts, Morfa Bychan.

Enillydd cystadleuaeth y delyneg ar y testun 'Cyffwrdd' oedd J. Lewis Jones, Yr Wyddgrug. Gwyneth Owen, Pwllheli enillodd yr englyn ar y testun 'Troi' a Menna Medi, y Groeslon ddaeth i'r brig ar y gân rydd ar y testun Ffordd.

Gallwch weld holl ganlyniadau 2007 drwy lawrlwytho dogfen Word yma.

Cefndir
Eisteddfod i bobl ifanc oedd yr eisteddfod yma i ddechrau. Cynhaliwyd y gyntaf ar nos Wener, 14 Mai 1971, yn y neuadd bentref. Mrs Doris Lloyd Roberts a Mrs Magi Baum oedd yr ysgrifenyddion, ac mae Mrs Baum yn dal i fod yn gysylltiedig â'r eisteddfod heddiw gan mae hi yw'r cadeirydd. Hefyd mae Mrs Roberts a'i theulu yn rhoi cwpan i enillydd y gystadleuaeth canu emyn i rai dros 55 oed er cof am ei rhieni ym mhob eisteddfod.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, gan ei bod mor boblogaidd, fe ddaeth i gael ei chynnal ar y nos Iau hefyd, gyda'r cystadlu yn mynd ymlaen tan oriau mân y bore. Yn yr wythdegau yr oedd yr eisteddfod ar nos Wener a nos Sadwrn ac yn y nawdegau symudodd i brynhawn a nos Sadwrn. Mae'r eisteddfod rŵan yn cael ei chynnal ar ail Sadwrn mis Mai.

Yr arweinyddion am flynyddoedd oedd Mr William Pritchard, Caernarfon a Mr Hywel Parry, y Groeslon, ac wedyn daeth Mr Richard Parri Huws, Llwyndyrus a Mr Ifan Jones Davies, Llanllyfni. Y cyfeilyddion oedd Mrs Sioned Webb, Rhiwlas a Mrs Annette Bryn Parri, Deiniolen ac am y pymtheg mlynedd diwethaf, Mr Alan Roberts, Morfa Bychan.

Bu Bryn Terfel, John Eifion a Cefin Roberts yn cystadlu yn yr eisteddfod yn eu tro.

  • Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.

  • Cyfrannwch

    iwan
    brill o steddfod


    Anfonwch fanylion eich 'steddfod leol neu'ch atgofion am eisteddfota aton ni.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy