ENGLYN Marian Jones, BethesdaGlaw Dal llid, a dal i stido, - bwrw sen, Bwrw swyn hen wylo. Gwragedd syn a'u ffyn, ar ffo, Am wyllt daith yn melltithio. TELYNEG Arthur Evans, Chwilog Ton Fuost ti ar fin y morglawdd  drycinog fôr a'i hwrdd? Hithau'r don yn torri'n ewyn Lle doi môr a thir i gwrdd. Dos i'r morglawdd pan fo'n dawel, Odid yno clywi'n glir Don ar draeth a'i llepian llawen Lle bu gynt yn chwipio'r tir. CAN RYDD T. Graham Williams, Cwm Tawe Rhodd (er cof am Heddwyn Williams) Cliciwch yma i lawrlwytho'r gerdd mewn dogfen Word LLINELL GOLL Pan fydd dail y coed yn dihoeni Bydd ysgol Brynaerau eleni Mor iach ag erioed A hithau'n gant oed . . . . . . . Ai gwir y caiff neges gan Lisi? Mae'n siampl i'r oes sydd ohoni. A'r addysg yn gyfoes o'i mewn hi. Rhag ei chau, ymgyrchwn o ddifri. J. Lewis Jones, Yr Wyddgrug Boed i bawb yn y fro ei chefnogi. Dewch draw yn ddioed,- mae 'na barti. "Penblwydd hapus" medd plant a rhieni. Valmai Williams, Aberdesach. Llongyfarchion twymgalon sydd iddi. Cant arall, gobeithio, o'i blaen hi. Cymraeg iach, llond ceg, glywir ynddi. Ein cyfoeth adleisia'n y meini. Ann Wyn Owen, Rhoscolyn Yr enillydd: Crud addysg fy mhlant a'm rhieni. Ann Wyn Owen, Rhoscolyn Canlyniadau Eisteddfod 2005 Prif dudalen Eisteddfod Clynnog
 |