BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eisteddfod Clynnog Fawr a'r Cylch 2004
Cynhaliwyd yr eisteddfod ar ddydd Sadwrn, 8 Mai.

Dechreuodd yr eisteddfod y prynhawn yn dda efo saith o blant bach o dan bump oed yn canu ac yn canu'n dda iawn hefyd. Ddaeth llu o blant o Ysgol Brynaerau i ganu cân efo cyfeiliant gitâr, a phennaeth yr ysgol, Mr Robert Wyn Roberts, oedd ar y gitâr. Cafwyd hefyd dau gôr adrodd a chôr unsain, a phawb wedi cael hwyl arni.

Cafodd y beirniad amser i fynd i weld Eglwys Beuno a chael trip i lawr i Nant Gwytheyrn a chael dipyn o egwyl cyn y nos.

Yr oedd cystadlu brwd efo wyth yn ymgeisio ar yr unawd Gymraeg, chwech ar yr emyn dros 55 oed, a chwech ar y brif unawd. Elin Mair wnaeth enill yr unawd Gymraeg a churo saith o'r dynion.

Noson sâl oedd hi i adroddwyr. Dim ond un yn ymgeisio yn yr oed 15 - 19 ac un dan 25 oed. Fe ddaeth Parti Cydadrodd newydd i gystadlu, sef Parti Penrhyn dan hyfforddiant Mrs Elina Owen, Bethesda. Roedd pawb yn y parti hwn yn gweithio yng Nghastell Penrhyn ac wedi penderfynu dod at ei gilydd i gystadlu yn Eisteddfod Clynnog. Wnaeth neb enill cwpan goffa Mr a Mrs W Pritchard eto eleni.

Rhoddwyd croeso i Mabon (Mr Alun Williams, Waunfawr) yn ôl i'r eisteddfod a chafwyd cystadlu brwdfrydig a chynulleidfa dda iawn hefyd.

Gan Mrs Gwyneth Woodall

Dyma weddill y canlyniadau:

Cystadlaethau'r P'nawn

Canu dan 5 oed:
1. Guto Wyn 2. Annest 3. Medi a Gwen

Adrodd dan 5 oed:
1. Gwen 2. Annest 3.Guto Wyn

Canu 5 i 7 oed:
1. Mali 2. Sion

Canu 7 i 9 oed:
1. Ella

Adrodd 7 i 9 oed:
1. Ella 2. Rhodri Lleyn

Canu 9 i 12 oed
1. Elliw 2. Elin

Adrodd 9 i 12 oed:
1. Elliw 2. Elin

Unawd piano dan 12 oed:
1. Elliw

Unawd Cân Werin dan 12 oed
1. Elin 2. Elliw

Parti Adrodd dan 12 oed:
1. Parti Enfys 2. Parti Rhys

Cân Ysgafn ar gyfer Cyfeiliant Gitâr dan 12 oed:
1. Zoe 2.Rhys 3. Arian ac Alys

Canu 12 i dan 15 oed:
1 Sian 2. Guto Dafydd

Adrodd 12 i dan 15 oed:
1. Sian

Unrhyw offeryn ag eithrio'r piano dan 12 oed:
1. Owain Arfon

Parti Unsain dan 12 oed:
1. Ysgol Brynaerau

Unawd cerdd dant dan 15 oed:
1. Ella

Unawd Cân Werin dan 16 oed:
1. Guto Dafydd

Deuawd dan 15 oed:
1. Elliw ac Elin

Cystadlaethau'r Nos

Canu 15 i dan 19 oed:
1. Elin Mair 2. Elin Thomas 3. Jennifer Dumbell

Adrodd 15 i dan 19 oed:
1. Elin Thomas

Unawd Cerdd Dant 15 i dan 19 oed:
1. Elin Thomas 2. Elin Mair

Unawd offeryn dan 21 oed:
1. Elin Thomas

Emyn Plwyf Clynnog:
1. Rheon Owen

Unawd dan 25 oed:
1. Elin Mair 2.Elin Thomas 3. Alaw Tecwyn

Adrodd dan 25 oed:
1. Alaw Tecwyn

Unawd Cerdd Dant agored:
1. Elin Thomas 2. Alaw Tecwyn 3. Elin Mair

Cân Werin agored:
1. Elin Thomas 2. Elin Mair 3. Alaw Tecwyn

Parti Cyd-adrodd:
1. Parti Penrhyn

Emyn dros 55 oed:
1. Aled Jones, Machynlleth 2. Mabon, Waunfawr 3. Alun Rowlands, Bangor

Unawd Gymraeg:
1. Elin Mair 2. Jeremy Davies 3. Clarence Jones

Prif Unawd:
1. Clarence Jones, Ynys Môn 2. Treflyn Jones, Porthmadog 3. Jeremy Davies, Porthmadog

Cystadlaethau'r Adran Llên

Telyneg:
1. Elina Owen, Bethesda 2. J Lewis Jones, Wyddgrug a Parch O R Parry, Ruthin

Englyn: 1. 'Gyda'r Wawr' 2. Elina Owen, Bethesda

Cân Rydd:
1. Parch O R Parry, Ruthin 2. Valmai Williams, Aberdesach

Llinell Goll:
1. Valmai Williams, Aberdesach 2. Ann Wyn Jones, Rhoscolyn a Clifford Jones, Bontnewydd

Dan 25 oed:
1. Rhiannon Williams, Llanfrothen 2. Sian Elin Huws, Llanllyfni

Dan 15 oed:
1. Guto Dafydd, Trefor

Dysgwyr:
1. Barbara Lenihan, Clynnog a Lesley-Ann Archer-Shirley, Trefor 2. Gillian Barret, Llanaelhaearn

Plant Ysgol Brynaerau:
Ysgrifennu Bl 3 a 4:
1. Daniel 2. Enfys 3. Elin

Ysgrifennu Bl 5 a 6:
1. Alys 2. Rhys 3. Elis

Arlunio Meithrin (Clynnog Fawr):
1. Huw 2. Caio 3. Cara

Arlunio Meithrin (Brynaerau):
1. Angharad 2. Sioned 3. Gwen

Arlunio Bl 0:
1. Jesse 2. Efa 3. Shôn

Arlunio Bl 1:
1. Mared 2. Evie 3. Cai Owen

Arlunio Bl 2 a 3 a 4:
1. Owain 2. Zoe 3. Enfys

Arlunio Bl 5 a 6:
1. Huw 2. Elis 3. Gavin

Llywyddion yr eisteddfod oedd Mrs. Marian Jones, Caernarfon (p'nawn) a Mr. Dafydd Owen, Rhosbodrual (min nos) a Mr. Richard Huws, Llwyndyrus a Mr. Ifan Jones oedd yr arweinyddion.

Y beirniaid oedd: Cerdd - Mrs. Vera Savage, Llanelwy; Llefaru a LIên - Y Parch John Gwilym Jones, Bangor; Arlunio - Mr. Wil Jones, Felinheli.

Y cyfeilydd oedd Mr. Alan Roberts, Morfa Bychan, y cadeirydd oedd Mrs. M. Baum, 7 Llwyn-y-Nê, Clynnog Fawr. Ysgrifennydd yr eisteddfod yw Mrs. Gwyneth Woodall, Tŷ Hir, Yr Allt, Clynnog Fawr (Ffôn 01286-660091) a'r trysorydd yw Mr. Richard L. Jones, 21 Llwyn-y-Nê, Clynnog Fawr.

  • Nôl i brif dudalen yr Eisteddfod
  • Cynnyrch llenyddol buddugol eisteddfod 2004


  • 0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy