ENGLYN
Llidiart - gan 'Gyda'r Wawr'I'w dal, fe wnaed dau ddolyn,- yna'i rhoi
Hi cydrhwng dau bostyn
Yn wastad bydd yn estyn
Nodded i holl eiddo dyn.
CAN RYDD
Eglwys Beuno - gan y Parch O R Parry, Ruthin
Wrth rodio yr arfordir
O Fangor trwy Bengroes,
Cawn olwg nad anghofiwn
O eglwys ar ffurf croes.
Dyma hen seintwar Beuno,
'Rol troedio'r llwybrau brwnt,
Heddwch i'r pererinion
Cyn croesi tonnau'r Swnt.
Yma bu cwmni'n dysgu
A meithrin doniau'r ne',
Ac Eben Fardd a'i ysgol
Yn ail-greu naws y lle.
Wrth symud at yr allor,
Awn heibio i'r hen sgrin
Lle gynt eisteddai'r myneich
A gwylaidd blygu glin.
Ar fur, yng ngwrid y machlud,
Ynghrog ers oesau maith,
Mae cragen a fu'n gwmni
Pererin ar ei daith.
Fe gofiwn am y gwyrthiau
A'r dŵr yn adfer hedd,
Mae capel Beuno yma,
Ond pwy ŵyr fan ei fedd?
Ymhlith y rhyfeddodau
Mae sôn am gaead cist,
A'r arfer bob Gŵyl Fabsant:
Offrymu yng nghoffrau Crist.
Fe roddwyd tir i Beuno
Gan gefndryd, medda nhw:
Cadwallon brenin Gwynedd
A Gwyddeint dyngodd lw.
Ac erys carreg Beuno
Yn brawf o'r iawn a wnaed,
A'r groes a gerfiwyd arni
Er cof am Grist a'i waed.
Bu chwilio am feddrod Beuno
Gan lawer yn eu tro,
Heb aflonyddu'r fangre
Lle huna'i esgyrn o.
A'i ysbryd sydd yn effro
Er aml tro ar fyd,
A Chlynnog Fawr yn Arfon
Sy'n denu'r saint o hyd.
TELYNEG
Ffynnon - Elina Owen, Bethesda
Pnawn Gwener poeth ar Golgotha
a chaddug tywyll
yn troi dydd yn nos.
Yno, yn y tywyllwch
roedd gŵr ar groes yn trengi.
"Mae syched arnaf", meddai'n floesg.
Rhoesom ninnau finegr chwerw ar ei wefus
a diwallu ein syched ninnau
gyda gwin coch melys.
Yna loetran yn ddiflas
wrth droed y groes
yn disgwyl iddo farw.
Wedi blino disgwyl,
a'n syched yn dal i'n llethu.
tarawsom ei ystlys â phicell,
er mwyn prysuro'r diwedd.
Ar unwaith
agorwyd ffynnon
yno yn y gwres
ar Golgotha
ac ni bu syched mwyach.
LLINNELL GOLL
Valmai Williams, Aberdesach
Aeth bachgen o dyddyn yng Nghymru
i wneud ei ffortiwn yn lle llwgu;
ond tybed a fydd
ei draed o mor rhydd
yn filiwnydd a phawb yn ei garu.
Nôl i brif dudalen yr Eisteddfod
Nôl i dudalen canlyniadau 2004