Nodiadau rhieni ac athrawon am astudiaeth o dwristiaeth ar ynys wyliau Mallorca.
Mae'r astudiaeth yma o dwristiaeth yn canolbwyntio ar Ynys Mallorca yn y Môr Canoldir.
Ymunwch â phobl ifanc lleol sy'n rhoi blas i ni o fywyd ar ynys Mallorca ac yn ystyried sut mae twristiaeth dorfol wedi effeithio arni.
Mae fideos eraill yn trafod gwyliau antur, gwyliau glan môr traddodiadol a digwyddiadau arbennig sy'n denu llawer o bobl.
Mae'r astudiaeth yn annog disgyblion i ystyried:
• sut mae twristiaeth yn effeithio ar fywyd ym Mallorca
• manteision ac anfanteision twristiaeth
• y gwahanol fathau o wyliau sydd ar gael
• ardaloedd sydd mewn perygl oherwydd effeithiau twristiaeth
• y math o ardaloedd maen nhw'n ymweld â nhw ar eu gwyliau
• pa bethau arbennig sydd yn eu hardal nhw i ddenu ymwelwyr.