Dyma astudiaeth o sbwriel ac ailgylchu yng Ngogledd Iwerddon. Mae pobl ifanc lleol yn edrych ar y problemau sy'n gysylltiedig â chael gwared ar sbwriel ac yn egluro pam mae dysgu pobl i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mor bwysig. Mae fideos eraill yn edrych ar ailgylchu ar ynys Cuba, beth sy'n digwydd i'r holl glytiau babanod sy'n cael eu taflu bob blwyddyn a sut mae'n bosib ailddefnyddio gwastraff bwyd yn yr ardd. Mae Ein Byd yn adnodd daearyddiaeth Cymraeg i blant 7-11 oed, cyfnod allweddol 2.
Bydd angen Flash i weld cynnwys y wefan hon. Gallwch lawrlwytho Flash yn rhad ac am ddim.