Nodiadau rhieni ac athrawon ar gyfer astudiaeth o sbwriel ac ailgylchu yng Ngogledd Iwerddon.
Dyma astudiaeth o sbwriel ac ailgylchu yng Ngogledd Iwerddon.
Mae pobl ifanc lleol yn edrych ar y problemau sy'n gysylltiedig â chael gwared ar sbwriel ac yn egluro pam mae dysgu pobl i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu mor bwysig.
Mae fideos eraill yn edrych ar ailgylchu ar ynys Cuba, beth sy'n digwydd i'r holl glytiau babanod sy'n cael eu taflu bob blwyddyn a sut mae'n bosib ailddefnyddio gwastraff bwyd yn yr ardd.
Mae'r astudiaeth yn annog disgyblion i ystyried:
• beth sy'n digwydd i'r sbwriel rydyn ni'n ei daflu
• y problemau mae cael gwared ar sbwriel yn eu creu
• beth sy'n digwydd i'r pethau rydyn ni'n ailgylchu
• pwysigrwydd lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu
• y camau ymarferol gallan nhw eu cymryd i leihau faint o sbwriel maen nhw'n ei daflu
• lle mae eu cyfleusterau ailgylchu lleol a beth sydd yn digwydd yno.