| Mae'r gyfres yn cael ei chynhyrchu yng Nghymru ac mae'r pencadlys wedi symud i Ystad Ddiwydiannol Bad Uchaf. Yno agorwyd stiwdios newydd BBC Cymru ar ddiwedd mis Gorffennaf gan Andrew Davies, y Gweinidog Diwydiant. Mae'r stiwdios enfawr yn cynnwys tu fewn y Tardis a setiau ar gyfer Torchwood fydd yn cael ei ddarlledu ar BBC3. Hefyd ar y safle mae gweithdai golygfeydd, offer golygu fideo a stiwdio sain. O ganlyniad i'r cynyrchiadau newydd cyflogir dros 400 o bobl ychwanegol gan y BBC yng Nghymru a daw ag incwm sylweddol i'r ardal.
 |