BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Jonsi yn dathlu yng nghanol myfyrwyr llwyddiannus Cymraeg i OedolionJonsi'n gwobrwyo dysgwyr
Hydref 2007
Cafwyd bore o ddathlu ar 18 Medi, 2007 i nodi llwyddiant nifer o ddysgwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg.

Oherwydd bod y dysgwyr yn gwrando ar Jonsi [ar BBC Radio Cymru] wrth ddod i'r gwersi ac yn trafod cynnwys y rhaglen yn gyson yn y dosbarth roeddent am ei wahodd i'r Seremoni Wobrwyo. Penderfynodd Jonsi y byddai'n darlledu ei raglen o'r Brifysgol y bore hwnnw a chafwyd cyfweliadau ar y radio gyda nifer o'r dysgwyr. Roedd yn braf clywed y dysgwyr yn siarad yn gyfforddus gyda Jonsi er mai ond cwta blwyddyn neu ddwy maent wedi bod yn dysgu Cymraeg.

Cyflwynwyd tystysgrifau gan Jonsi i 16 o fyfyrwyr a gwblhaodd y cwrs Cymraeg dwys dros gyfnod o ddwy flynedd ac maent i'w llongyfarch ar eu llwyddiant oherwydd eu brwdfrydedd, eu hymroddiad, eu dycnwch a'u penderfyniad. Hefyd cyflwynwyd tystysgrifau Defnyddio'r Gymraeg i fyfyrwyr o bob lefel yn cynnwys chwech a gyrhaeddodd y lefel uchaf - Defnyddio'r Gymraeg Hyfrededd.

Ar ddiwedd y Seremoni cyflwynwyd tusw o flodau i un o'r myfyrwyr oedd wedi derbyn clod arbennig yn ystod yr haf. Enillodd Julie MacMillan, o Dreorci, wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Sir Fflint. Roedd Julie wedi dysgu Cymraeg yn y Brifysgol yn ystod y tair blynedd diwethaf ac wedi penderfynu newid iaith y cartref i'r Gymraeg oherwydd bod ei phlant yn mynd i Ysgol Gymraeg Ynyswen.

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg yn un o chwe chanolfan rhanbarthol sydd wedi ei sefydlu fel rhan o gynllun Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo dysgu Cymraeg i Oedolion. Gellir cael llyfryn o'r cyrsiau Cymraeg i Oedolion drwy ffonio 01443 483600 neu www.welshlearners.org.uk

  • Llun ar wefan Jonsi
  • Jonsi ar wefan BBC Radio Cymru

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    Cyfrannwch i'r dudalen hon! 0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy