| Roedd Josh Milton o'r Rhws, a aeth i ysgol ym Mhenarth, eisoes wedi ei gadarnhau i gymryd rhan yn y Gemau a fydd yn dechrau ar 3 Hydref. Mae Lewis, sydd yn 28 oed ac yn hanu o Gastell-nedd, wedi body n chwarae yn broffesiynol ers 2000. Fe fydd yn ymuno gyda Milton ar gyfer cystadleuaeth y dyblau a fydd y ddau hefyd yn cystadlu yn y senglau. Roedd Lewis a Milton yn nhîm Cymru enillodd teitl hŷn y Bedair Gwlad yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf. Mae Lewis wedi ennill Pencampwriaeth Cenedlaethol Cymru saith gwaith rhwng 2000 a 2009 gan gyrraedd rownd ragbrofol derfynol Wimbledon yn 2003.
 |