| Unwaith eto fe ddangosodd Federer y rhesymau pam y mae nifer yn ei ystyried fel y chwaraewr gorau erioed wrth iddo ennill 6-3 6-4 7-6 (13-11) ym Mharc Melbourne. Roedd Murray yn cydnabod y byddai'n rhaid iddo fod ar ei orau i ennill ond fe fethodd a manteisio pan gynigodd Federer ambell gyfle prin i'w wrthwynebydd yn ystod yr ornest barrodd am ddwy awr a 41 munud. Unwaith eto fe gafodd Murray wybod pa mor anodd ydi'r dasg o gipio un o prif deitlau y byd tennis - camp a gyflawnwyd gan Prydeiniwr ddiwethaf yn 1936 yn America gan Fred Perry.
 |