Roedd y ferch 27 oed o'r Unol Daleithiau yn fuddugol 7-6 (7-3) 6-2 i sicrhau ei theitl cyntaf ers 2003. Dyma oedd y pedwerydd tro yr oedd y chwiorydd wedi cwrdd yn y rownd derfynol yn Wimbledon.
Roedd Venus yn ceisio ennill y teitl am y trydydd tro yn olynol yn SW19. Mae Serena bellach wedi ennill 11 o brif gystadlaethau a hithau wedi ennill yn Wimbledon, Ffrainc a'r Unol Daleithiau yn ystod y deuddeg mis diwethaf.
 |