BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi XIII

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 24 Mawrth 2011

Hwb i garfan y Crusaders

Mae clwb y Crusaders wedi derbyn hwb sylweddol gyda'r newyddion fod cynigion visa Rhys Hanbury, Frank Winterstein a Hep Cahill wedi cael eu cymeradwyo.

Mae disgwyl i'r tri hedfan o Awstralia o fewn y dyddiau nesaf, ag iddynt ddechrau ymarfer gyda gweddill y garfan go gyfer a'r gêm yn erbyn Salford ar yr Ail o Ebrill.

Roedd Frank Winterstein a Rhys Hanbury yn aelodau amlwg o garfan y Crusaders tymor diwethaf.

Chwaraeodd Winterstein 29 gêm ac fe sgoriodd bedwar cais. Sgoriodd Hanbury 12 cais mewn 20 gêm.

Chwaraewr ail-reng ydi Hep Cahill, sy'n ymuno o glwb Melbourne Storm. Roedd yn rhan o'r tîm a drechodd Leeds Rhinos i ennill tlws her y Byd yn 2010.

Yn gynharach yn yr wythnos, cadarnhaodd y clwb eu bod wedi arwyddo Jordan Tansey ag Andy Bracek.

Roedd hyfforddwr y Crusaders, Iestyn Harris, yn hapus iawn fod y tri yn ymuno â'r garfan o'r diwedd:

"Bu'n broses hir a maith i ddod a'r chwaraewyr yma; ond mae'r tri yn chwaraewyr pwysig inni. Roedd Frank a Rhys yn chwaraewyr allweddol i'r tîm drwy gydol y tymor diwethaf.

"Mae Rhys yn chwaraewr amryddawn, ac mae bob tîm angen chwaraewyr fel hyn yn y garfan.

"Mae Frank yn rhedwr cryf. Mae'n chwaraewr ifanc, sydd efo dyfodol disglair yn y gêm.

"Rwyf yn edrych ymlaen at weld Hep Cahill yn chwarae. Yn ôl Craig Bellamy, hyfforddwr Melbourne Storm, mae'n un o'r athletwyr mwyaf naturiol iddo 'i weld - felly rydw i'n gobeithio ei weld o a Jason Chan yn ffurfio partneriaeth beryglus inni.

"Rydyn ni wedi parhau i fod mewn cysylltiad agos gyda'r tri chwaraewr trwy gydol y cyfnod yma, ac wedi paratoi rhaglenni ffitrwydd iddynt eu dilyn tra 'u bod yn Awstralia.

"Er nad ydyn nhw wedi chwarae llawer o gemau yn ddiweddar, rwyf yn gobeithio na fydd llawer o waith i'w wneud tan iddynt gyrraedd y lefelau ffitrwydd angenrheidiol.

"Rydyn ni'n closio at gael carfan lawn erbyn hyn, a bydd hynny'n creu cystadleuaeth iachus am lefydd yn y tîm."

Mae'r Crusaders yn teithio i Castleford ar gyfer eu gem nesaf yn y Super League. Bydd y gic gyntaf am 3pm ddydd Sul.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy