BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi XIII

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 23 Mawrth 2011

Crusaders yn ychwanegu at y garfan

Mae'r Crusaders wedi ymateb i'r cychwyn siomedig i'r tymor drwy arwyddo ail chwaraewr o fewn 48 awr.

Andy Bracek

Y Cymro Andy Bracek, cyn-flaenwr St Helens a Warrington, yw'r diweddaraf i ymuno gyda'r clwb o Wrecsam ar gytundeb 18 mis.

Diwrnod yng nghynt, arwyddodd Jordan Tansey gytundeb cyffelyb. Cafodd y cefnwr ei ddiswyddo gan Hull ar drothwy'r tymor yma ar ôl torri rheolau disgyblaeth y clwb am y trydydd tro mewn 12 mis.

Mae Bracek wedi bod yn chwarae i Barrow yn y Bencampwriaeth yn ddiweddar, ond does dim disgwyl iddo fod yn holliach i wisgo crys y Crusaders am ddau fis oherwydd anaf i'w ben-glin.

"Mae Andy yn ychwanegiad gwych i ni," dywedodd hyfforddwr y Crusaders Iestyn Harris.

"'Dw i wedi gweithio gyda fo yng ngharfan Cymru ac mae o'n chwaraewr cryf sy'n gallu cael gwared â'r bêl yn y dacl.

"'Da ni'n brin o chwaraewr ail-reng ar hyn o bryd felly mi fydd Andy yn ychwanegu maint a phŵer i'r pac."

Mae'r Crusaders ar waelod y Super League ar hyn o bryd ar ôl colli pum gêm yn olynol yn dilyn y fuddugoliaeth agoriadol.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy