BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi XIII

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 21 Mawrth 2011

Jordan Tansey yn ymuno â'r Crusaders

Mae'r Crusaders wedi cynnig llwybr yn ôl i'r Super League i'r cefnwr, Jordan Tansey, a gafodd ei ddiswyddo gan glwb Hull ar drothwy'r tymor yma, ar ôl torri rheolau disgyblaeth y clwb am y trydydd tro mewn 12 mis.

Mae Tansey wedi arwyddo cytundeb am 18 mis efo'r Crusaders, ac mae'n bosib y bydd yn wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb yn Castleford ddydd Sul nesaf.

Cyn ymuno â Hull, bu Tansey yn chwarae i Leeds, ac mae o wedi sgorio 32 cais mewn 81 gêm yn y Super League.

"'Doedd gan y clwb ddim amheuaeth ynglŷn ag arwyddo chwaraewr o allu Jordan Tansey," meddai prif weithredwr y Crusaders, Rod Findlay.

"Rydw i ac Iestyn (Harris) wedi body n siarad efo Jordan, ac wedi cael ein plesio gan ei awydd i lwyddo a'i agwedd yn gyffredinol."

Yn ôl Harris, mae'r Crusaders wedi arwyddo chwaraewr amryddawn:

"Mae'n galw chwarae ar hyd y llinell ôl, neu'n fachwr. Mae'n chwaraewr galluog iawn, ac yn süwr o ychwanegu at yr ochr ymosodol o'n gêm ni.

"Mae'n falch o gael cyfle arall i chwarae ar y lefel ucha', a'r cyfle i ddangos pa mor ddawnus ydi o."


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy