Fe fyddai buddugoliaeth yn erbyn St Helens yn ogystal â chanlyniadau eraill yn mynd o'u plaid wedi gweld tîm Brian Noble yn sicrhau lle yn y gemau terfynol.
Tra bydd yn rhaid i'r Crusaders ddisgwyl am bythefnos mae'r fuddugoliaeth yn gweld St Helens yn codi uwchben Warrington ar bwyntiau i'r ail safle yn Super League.
Croesodd Vince Mellars am gais i roi'r Crusaders ar y blaen wedi tri munud o'r gêm yn dilyn gwaith da gan Clinton Schifcofske a Jason Chan gyda Frank Winternstein hefyd yn croesi.
Ond yr ymwelwyr oedd yn arwain 14-10 ar yr egwyl wedi ceisiau Kyle Eastmond, Paul Wellens ac Ade Gardner.
Fe aeth St Helens ymhellach ar y blaen diolch i gais Jamie Foster cyn i gais dadleuol James Roby, ganiatawyd gan y dyfarnwr fideo, brofi'n allweddol.
Profodd hynny'n dyngedfennol ac fe sgoriodd Jonny Lomax and Tony Puletua yn hwyr yn y gêm i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm o Knowsley Road.
Taflwyd cysgod dros fuddugoliaeth St Helens ar ôl i fachwr Prydain a Chymru Keiron Cunningham ddioddef anaf i'w ên.
Yr ofn yn wreiddiol oedd ei fod wedi torri asgwrn yn ei ên ond mae sgan wedi distyru hynny ac fe fydd yn rhydd i chwarae rhan yn niweddglo'r tymor.
Mae'r chwaraewr 33 oed, chwaraeodd ei gêm gyntaf i'r clwb ym 1994, wedi datgan eisoes y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y tymor.
Crusaders: Schifcofske, Dyer, Martin, Mellars, Youngquest, Lupton, Hanbury, O'Hara, Withers, Bryant, Winternstein, Chan, Hauraki.
Eilyddion: Lee, James, Thackray, Trimarchi.
St Helens: Wellens, Foster, Gidley, Meli, Gardner, Lomax, Eastmond, Graham, Roby, Hargreaves, Flannery, Wilkin, Moore.
Eilyddion: Cunningham, Puletua, Ashurst, Emmitt.
Torf: 5,436.
Dyfarnwr: Richard Silverwood (Dewsbury).