| Yr ymwelwyr oedd ar y blaen 10-4 ar yr egwyl ar y Gnoll diolch i geisiau Jamie O'Callaghan a Ben Jones-Bishop a Hanbury yn croesi i'r Crusaders. Fe aeth Harlequins ymhellach ar y blaen gyda naw munud yn weddill gyda Danny Orr yn llwyddo gyda gôl gosb. Ond mewn diweddglo cyffrous fe ddaeth llygedyn o baith pan sgoriodd Chan gais i'r Crusaders cyn i Hanbury groesi i sicrhau'r fuddugoliaeth. Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod y Crusaders yn codi uwchben Castleford a bellach yn wythfed tra bod Harlequins ar waelod Super League.
 |