Croesodd Nick Youngquest am hat-tric o geisiau ac fe gyfrannodd Clint Schifcofske 24 o bwyntiau i'r Crusaders ar y Cae Ras. Youngquest oedd wedi sgorio cais cyntaf y prynhawn ond fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi i Stefan Ratchford groesi. Ond y tîm cartref fu'n rheoli wedi hynny gan sgorio 54 o bwyntiau heb ymateb diolch i geisiau Youngest (2), Rhys Hanbury, Schifcofske (2), Tony Martin (2), Ryan O'Hara a Weller Hauraki. Roedd Ray Cashmere i groesi am ail gais i Salford cyn i'w chwaraewr Jeremy Smith gael ei anfon o'r maes ac fe sgoriodd Karl Fitzpatrick gais yn hwyr.
 |