| Dau bwynt yn unig sydd rhwng y Crusaders a lle ymysg yr wyth uchaf gyda chwe gêm o'r tymor arferol yn weddill i dîm Brian Noble. Peter Lupton groesodd am y cais hwyr i'r ymwelwyr gyda phumed gôl Clinton Schifcofske o'r noson yn sicrhau'r fuddugoliaeth. Yr ymwelwyr oedd wedi mynd ar y blaen wedi cais Weller Hauraki cyn i'r tîm cartref gipio'r fantais diolch i ddwy gais Clint Greenshields. Roedd y Crusaders yn ôl ar y blaen wedi ceisiau Jason Chan a Rhys Hanbury ond i gais Remi Castry a gôl Thomas Bosc adfer mantais y Dreigiau. Ond y Crusaders gafodd y gair olaf gyda chais Lupton yn hwyr yn y gêm yn sicrhau buddugoliaeth yn Stade Gilbert Brutus.
Catalans Dragons: Greenshields, Bell, Raguin, Carlaw, Stacul, Bosc, Sherwin, Johnson, Elima, Mounis, Guisset, McGuire, Casty. Eilyddion: Fakir, Simon, Gigot, Gossard. Crusaders: Schifcofske, Youngquest, Martin, Mellars, Dyer, Hanbury, Sammut, Lupton, Hauraki, Chan, Bryant, Withers, Peek. Eilyddion: Lee, James, Winternstein, Trimarchi. Torf: 6,208 Dyfarnwr: T Alibert (Toulouse)
 |