Sgoriodd tîm Brian Noble pum cais, un yn fwy na'i gwrthwynebwyr, ac roedd yr ymwelwyr o Wrecsam yn llawn haeddu'r llwyddiant annisgwyl yn erbyn tîm oedd wedi ennill saith gêm yn olynol.
Croesodd Weller Hauraki a Vince Mellars ddwywaith yr un, gyda Adam Peek yn cael y llall. Daeth y pwyntiau eraill oddi ar droed Clinton Schifcofske.
Ar ôl bod ar y blaen am rannau helaeth o'r gêm, roedd y canlyniad yn y fantol yn y munudau olaf wrth i Leeds unioni'r sgôr 26-26 diolch i gais Brett Delaney.
Ond ochrgamodd Mellars drwy'r amddiffyn am y cais dyngedfennolgyda dau funud yn weddill a doedd dim ffordd yn ôl i ddeiliaid y gynghrair.
Leeds: Smith, Donald, Delaney, Senior, Hall, Sinfield, McGuire, Leuluai, Buderus, Peacock, Eastwood, Ablett, Clarkson.
Eilyddion: Kirke, Jones-Buchanan, McShane, Bailey.
Crusaders: Schifcofske, Youngquest, Martin, Mellars, Dyer, Lupton, Hanbury, O'Hara, Withers, Bryant, Hauraki, Chan, Winternstein.
Eilyddion: Peek, James, Flower, White.
Dyfarnwr: R Hicks (Oldham).