Rhoddodd ceisiau gan Gareth Thomas, Vince Mellars a Weller Hauraki y tîm cartref mewn sefyllfa gref ar yr egwyl. Ac er i'r ymwelwyr daro 'nol gyda cheisiau eu hunain croesodd Haurkai eto, Tony Martin, Nick Youngquest a Lincoln Withers i selio buddugoliaeth tîm Brian Noble. Ychwanegodd y cefnwr Clinton Schifcofske un pwynt ar bymtheg wrth i'r Crusaders drechu Bradford Bulls am y trydydd tro mewn pedair gornest. "'Rwy'n hynod o hapus i'r chwaraewyr," medd Brian Noble. "Doedden ni heb ennill am dair neu bedair wythnos, felly mae'r fuddugoliaeth hon yn atgyfnerthu hunanhyder y bechgyn," ychwanegodd yr hyfforddwr.
Crusaders: Schifcofske, Thomas, Martin, Mellars, Youngquest, Lupton, Hanbury, O'Hara, Withers, Bryant, Hauraki, Chan, Winternstein. Eilyddion: Dyer, Peek, Flower, James. Torf: 2,979
 |