| Y tîm cartref oedd wedi rheoli'r hanner cyntaf ac roeddynt ar y blaen 20-6 ar yr egwyl diolch i gais Chris Melling a dwy gais gan Dorn gyda Clinton Schifcofske yn croesi i'r ymwelwyr. Cafwyd ceisiau pellach gan Dorn, Luke Gale, David Howell ac Olisi Krasniqi yn yr ail hanner gyda Peter Lupton, Jason Chan a Rhys Hanbury yn croesi i'r Crusaders. Cafwyd munud o dawelwch cyn y gic gyntaf er cof am Garry Purdham - brawd capten y Quins Rob Purdham, - oedd yn un o'r rhai a laddwyd yng nghyflafan Cumbria.
 |