O droed Thomas Bosc daeth y pwynt tyngedfennol ar y Cae Ras - a hynny dau funud ar ôl i Jarrod Sammut fethu o fodfeddi gyda chic adlam a fyddai wedi rhoi'r tîm cartref ar y blaen. Roedd y Crusaders wedi gwneud yn wyrthiol i ddod mor agos at fuddugoliaeth a hwythau ar ei hol hi o 18-34 gyda 20 munud i fynd.
Ceisiau Peter Lupton, Sammut a Nick Youngquest sicrhaodd y diweddglo hynod gyffrous gyda'r sgôr yn gyfartal gyda 10 munud i fynd.
Ond dangosodd Bosc ei brofiad i gipio'r fuddugoliaeth i'r tîm sydd ar waelod y Super League.
Cyn hynny, sgoriodd Setaimata Sa tri chais, gyda Steven Bell, Bosc, Dane Carlaw hefyd yn croesi.
Clinton Schifcofske, Vince Mellarsa a Frank Winterstein sgoriodd geisiau eraill y Crusaders.
Crusaders RL: Schifcofske, Thomas, Mellars, Hanbury, Youngquest, Witt, Sammut, O'Hara, Withers, Bryant, Hauraki, Chan, Trimarchi.
Eilyddion: Lupton am Witt (40), Thackray am O'Hara (22), Flower am Bryant (22), Winternstein am Trimarchi (17).
Catalans Dragons: Pelo, Bell, Raguin, Sa, Vaccari, McGuire, Bosc, Ferriol, Baile, Guisset, Elima, Mounis, Johnson.
Eilyddion: K. Bentley am McGuire (26), Casty am Ferriol (20), Fakir am Guisset (21), Carlaw am Mounis (30).
Torf: 1,817
Dyfarnwr: Ian Smith (Oldham).